Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatrau
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR349-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/11/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/12/2026
Teitl cyflogwr
Uwch Ymarferydd Theatr
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am ymarferydd cofrestredig uwch profiadol sydd â diddordeb mewn sgryb i fod yn rhan o'n tîm cyfeillgar a brwdfrydig yn y Prif Theatrau, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
A chithau'n ymarferydd cofrestredig uwch ac yn arweinydd tîm, byddwch yn atebol am ddarparu gofal nyrsio costeffeithiol o safon uchel, heb oruchwyliaeth uniongyrchol, gan fabwysiadu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth gyfredol a glynu wrth ofynion cyfreithiol, rheolau statudol a pholisïau'r Bwrdd Iechyd.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gallu darparu arweinyddiaeth glinigol, gan fod yn atebol am ei weithrediadau proffesiynol ei hun a bod yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth mewn modd effeithiol.
Mae'r swydd hon yn un llawn-amser, a bydd gofyn cymryd rhan mewn amrywiaeth o batrymau shifftiau a allai gynnwys shifftiau dydd, gyda'r nos, dros nos, ar y penwythnos a rota ar alwad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bod yn gyfrifol am ddarparu lefelau arbenigol o ymarfer a gwybodaeth, gan hyrwyddo gofal seiliedig ar dystiolaeth ym maes Ymarfer Amdriniaethol a gweithio o fewn ffiniau personol, proffesiynol a chorfforaethol.
Bod yn fodel rôl proffesiynol i holl aelodau'r tîm Peri-Weithredol, a gweithio'n unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.
Sicrhau bod y staff yn cymryd rhan mewn diwylliant sy'n datblygu lle sicrheir tryloywder ac agwedd gadarnhaol at ddysgu, rheoli newid a datblygiad proffesiynol parhaus.
Amlygu'r gallu i ddelio ag anghenion corfforol a seicolegol cymhleth a defnyddio eich crebwyll eich hun i negodi ac addasu gofal cleifion i ddarparu datrysiadau.
Arwain y broses o gynllunio, trefnu ac ysgogi datblygiadau mewn y gwasanaeth.
Cymryd rhan a chefnogi'r Uwch-nyrs/Rheolwr Clinigol gyda rhaglenni archwilio clinigol amlddisgyblaethol, gan gynnwys y safonau perthnasol sy'n ymwneud â'r arbenigedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 14/12/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Lefel 1 a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth NEU Ymarferydd Adran Llawdriniaeth Cofrestredig a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gradd/Diploma mewn pwnc Iechyd
- Modiwlau Arweinyddiaeth/Rheolaeth
- Addysg/hyfforddiant clinigol penodol sy'n gysylltiedig ag Ymarfer Amdriniaethol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Addysgu/Asesu/Mentora
- Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT Efydd/Arian)
- Meistr mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad perioperative sylweddol mewn amgylchedd aml-broffesiynol
- Dangos gallu i arwain, newid ac arloesi mewn ymarfer clinigol
- Profiad o archwilio a datblygu gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ar draws sawl safle neu wasanaethau o fewn bwrdd iechyd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Chloe Feerick
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267283151
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Uwch Reolwr Nyrsio Leri Duncan
01554783090
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





