Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Wroleg
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC331-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/12/2025
Teitl cyflogwr
Clerc Ward
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Glerc Ward i ddarparu cymorth gweinyddol hanfodol i Ward Derwen.
Mae ysbryd cyd-dynnu ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel yn ofynion allweddol ar gyfer y rôl hon. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfforddus yn cydweithredu ac yn gweithio'n annibynnol.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus amlygu gallu rhagorol i weithio mewn tîm, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol. Mae dull effeithiol o gyfathrebu â chleifion, gofalwyr a staff yr ysbyty ar bob lefel yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n ddiwyd, yn llawn cymhelliant, ac yn canolbwyntio ar fanylion i gynorthwyo staff y ward gydag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol. Mae'r rhain yn cynnwys diweddaru systemau'r ysbyty, rheoli cofnodion meddygol, ac ateb galwadau ffôn. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu i gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus yn ei rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dylai'r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfrifiadurol rhagorol a dull da dros y ffôn, ynghyd â'r gallu i ddiweddaru cofnodion, ffeilio, delio â phost sy'n cyrraedd ac yn cael ei anfon, trefnu apwyntiadau ac archebu ambiwlansys.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Cynhelir y cyfweliadu ar 08/12/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg o safon dda
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG: Microsoft a system e-bost
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith swyddfa/gweinyddol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i ddysgu gweithdrefnau gweinyddol/clercol/y ward trwy hyfforddiant yn y swydd
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Y gallu i weithio i derfynau amser
- Y gallu i weithio mewn tîm
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Parsell-Evans
- Teitl y swydd
- Senior Ward Sister Derwen Ward
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227179
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





