Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Urology
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS057-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 31/03/2026
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cynorthwyol Nyrsio, Wroleg
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn talentog sy'n awyddus i ddysgu a bod yn aelod rhagweithiol o'r tîm Wroleg yn Hywel Dda. Rhaid i chi fod yn hyderus, a gallu amlygu sgiliau cyfathrebu llafar, ysgrifenedig a TG rhagorol, yn ogystal â sgiliau trefnu a chynllunio da.
Yn y rôl werth chweil hon, byddwch yn gweithio'n agos gyda'n nyrsys clinigol arbenigol, ein meddygon ymgynghorol, a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, a hynny i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y claf ledled amrywiaeth o leoliadau cleifion allanol a lleoliadau diagnostig. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy'n ymrwymedig i ragoriaeth broffesiynol ac yn awyddus i chwarae rhan hanfodol wrth wella profiad y claf mewn gwasanaeth arloesol sy'n tyfu.
Mae rôl yr Ymarferydd Cynorthwyol yn hanfodol wrth gefnogi gofal diogel a holistaidd ein cleifion, ac mae'n golygu darparu cyngor wyneb yn wyneb a dros y ffôn i gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Dan oruchwyliaeth y Tîm Nyrsys Arbenigol Clinigol Wroleg, bydd yr unigolyn hwn hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth dilynol i gleifion a theuluoedd sy'n byw ar ôl triniaeth neu â diagnosis o ganser. Bydd hyn yn golygu cyfeirio at
wasanaethau eraill yn yr ysbyty a'r gymuned.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gwybodaeth, Addysg a Chymorth i Gleifion
- Darparu esboniadau clir, tosturiol o brofion, triniaethau, a phrosesau'r clinig.
- Cynnig cysur a chyngor ymarferol, a chyfeirio at wasanaethau neu adnoddau arbenigol.
- Cefnogi cleifion sy'n byw â chyflyrau wroleg, yn cynnwys y rheiny sy'n destun llwybrau canser a llwybrau cyflyrau hirdymor.
Dogfennaeth Glinigol a Dyletswyddau Gweinyddol
- Diweddaru cofnodion electronig cleifion yn gywir, cofnodi asesiadau, arsylwadau, a chanlyniadau.
- Cefnogi'r gwaith o reoli llif clinigau ac apwyntiadau, a chydlynu â chyd-weithwyr amlddisgyblaethol.
- Cynorthwyo i fonitro lefel y stoc, cynnal a chadw cyfarpar, ac archebu cyflenwadau.
Asesiadau Cleifion a Chymorth Clinigol
- Cynnal asesiadau clinigol, arsylwadau, ac adolygiadau holistaidd dirprwyedig dan oruchwyliaeth ymarferydd cofrestredig.
- Paratoi cleifion ar gyfer amrywiaeth o driniaethau wroleg i gleifion allanol (e.e. profion cyfradd llif, sganiau o'r bledren, asesiad cyn cystosgopi hyblyg, clinigau asesu'r prostad)
Profi Diagnostig a Gweithdrefnau Clinigol
- Cynnal a chofnodi mesuriadau megis mesur llif wrin, sganio'r bledren am weddillion ar ôl gwacáu, profion wrin, a phrofion pwynt gofal eraill.
- Cynorthwyo clinigwyr cofrestredig yn ystod archwiliadau a mân driniaethau, gan sicrhau esmwythdra, urddas, a diogelwch y claf.
- Paratoi ardaloedd, cyfarpar, ac offer clinigol yn unol â safonau atal a rheoli haint.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Bydd deiliad y rôl hon hefyd yn chwarae rhan allweddol yng nghyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod yna gydlyniad esmwyth o ran llwybrau yn ogystal â chyfathrebu effeithiol yn y gwasanaethau ehangach. Byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Glangwili gyda'ch gweithle eich hun, a hynny mewn tîm prysur, cefnogol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 31/03/2026
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwchTGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol neu wirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. gofalu am gathetr - gan gynnwys tynnu cathetr
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a chofnodi arsylwadau bywyd a dehongli'r canlyniadau
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. adolygu asesiadau risg
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a dehongli glwcos gwaed
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. Profiad o gefnogi nyrs gofrestredig gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
- Yn achos rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu ofal sylfaenol
- Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
- Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Level 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Krystyna Caine
- Teitl y swydd
- Advanced CNS in Urology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07581 259624
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





