Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Wroleg
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR183-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili, i gwmpasu pob un o’r 4 safle
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flywddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/06/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/07/2026
Teitl cyflogwr
Nyrs Glinigol Arbenigol – Canser y Prostad
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Nyrs Glinigol Arbenigol Band 7 brofiadol, uchel ei chymhelliant i chwarae rhan ganolog wrth sefydlogi a gwella llwybr canser y prostad yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin ac ar draws y Bwrdd Iechyd.
Rôl gweithiwr allweddol ac arwain llwybr yw hon, sy’n cefnogi cleifion canser y prostad o ddiagnosis trwy driniaeth, gwyliadwriaeth a goroesi. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws llwybr cyfan y prostad, gan sicrhau diagnosteg mewn pryd, gweithrediad effeithiol y tîm amlddisgyblaethol, cyfathrebu o safon â chleifion, ac ôl-driniaeth wedi’i sbarduno gan brotocol yn unol â safonau canser cenedlaethol.
Sefydlir y rôl hon er mwyn troi’r gwelliannau diweddar yn y capasiti diagnostig yn erfformiad llwybr parhaus, gwell profiad i gleifion, a llai o niwed yn sgil oedi.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/7/2026
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Nyrs Glinigol Arbenigol yn gwneud y canlynol:
- Bod yn weithiwr allweddol dynodedig ar gyfer cleifion canser y prostad, gan ddarparu cymorth cyson, wedi’i bersonoli ar draws diagnosis, triniaeth ac ôl- driniaeth
- Arwain a chydlynu llwybr diagnostig canser y prostad, gan gynnwys llwybrau syth at MRI a biopsi LATP
- Chwarae rôl ganolog o ran paratoi’r tîm amlddisgyblaethol, ei bresenoldeb a’i ôl-driniaeth, gan sicrhau gwybodaeth glinigol gyflawn, raenus a chyfleu canlyniadau mewn da bryd
- Darparu clinigau dan arweiniad nyrs glinigol arbenigol, gan gynnwys cadw golwg ar PSA, monitro gweithredol ac ôl-driniaeth, gan gefnogi agenda trawsnewid ôl-driniaeth ehangach y Bwrdd Iechyd
- Cefnogi cleifion sy’n cael llawdriniaeth, radiotherapi a therapïau systemig, gan ddarparu addysg, rheoli symptomau ac uwchgyfeirio pryderon yn gynnar
- Cyflwyno asesiadau anghenion cyfannol, crynodebau triniaeth a chynlluniau gofal goroesi yn unol â safonau canser cenedlaethol
- Cefnogi’r gwaith o gyflwyno offer monitro o bell a digidol (e.e. Patients Know Best) ar gyfer ôl-driniaeth canser y prostad
- Cydweithio ar draws Wroleg, Radioleg, Patholeg, Oncoleg, Gwasanaethau Canser a Gofal Sylfaenol i wella profiad a llif y llwybr
- Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, archwilio, gwella ansawdd ac adfer perfformiad, gyda ffocws clir ar Safon Diagnosis Cyflymach a chydymffurfio â’r targed Llwybr Brys Lle’r Amheuir Canser (USC) o 62 diwrnod.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- 4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
- 5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
- Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
- Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
- 48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hu Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Meistr neu brofiad cyfwerth
- Cymwysterau arbenigol
- Lefel arbenigol o wybodaeth mewn arbenigedd clinigol
- Gwybodaeth am wella gwasanaethau
- Y gallu i gynnal chwiliad llenyddiaeth ac i werthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu
- Cymhwyster rheoli
- Sgiliau clinigol uwch
- Presgripsiynu Anfeddygol (v300)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad yn yr arbenigedd perthnasol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o reoli ward/maes/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyngofrestru mewn rôl fentoriaeth
- Profiad o gynnal archwiliad
Meini prawf dymunol
- Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emilia Jurgielewicz
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07929848180
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





