Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr y Tu Allan i Oriau
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae rôl Gweithiwr y Tu Allan i Oriau yn amlochrog a bydd yn cynnwys Ateb Galwadau, Gyrru, y Dderbynfa a Gofal Iechyd.
Mae’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn gweithredu Llinell Broffesiynol lle mae galwadau’n cael eu cymryd gan weithwyr proffesiynol sydd yng nghwmni cleifion, h.y. cartrefi nyrsio, parafeddygon ar leoliad, ysbytai, ac ati.
Yn ogystal â hyn, mae llinell brysbennu triniaeth canser a llinell gofal lliniarol yn cael eu hateb gan y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau.
Byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn y Ganolfan Gofal Brys gyda thîm amlddisgyblaethol, yn cynnwys Goruchwyliwr y Shifft y Tu Allan i Oriau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn rhedeg Llinell Ateb Galwadau Broffesiynol. Mae galwadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dod i'r llinell hon gan ysbytai, nyrsys, cartrefi nyrsio, parafeddygon a disgyblaethau diffiniedig eraill y mae arnynt angen cymorth clinigol brys. Defnyddir pecyn cymorth UKONS i ateb galwadau gan gleifion oncoleg sy'n cael triniaeth ar hyn o bryd ac i frysbennu'r cleifion hyn mewn modd cywir.
Bydd y rôl yn cynnwys ateb a chofnodi galwadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned, sicrhau bod manylion demograffig yn cael eu cofnodi'n gywir, a mynegi'r pryder y rhoddwyd gwybod amdano.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael hyfforddiant sgiliau i ofalu i gynorthwyo â dyletswyddau Gofal Iechyd wrth gyflawni rôl gyrrwr/derbynnydd. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i'r rhai nad ydynt eisoes yn meddu ar gymhwyster gofal iechyd.
Shifftiau amrywiol, a mae’r shifftiau sydd ar gael yn cynnwys 6.30pm-11.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am-1pm ar ddydd Sadwrn, a 5pm-10pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae angen hyblygrwydd i gyflenwi ar gyfer pob shifft yn ôl yr angen, gan gynnwys shifftiau nos. Bydd y shifftiau'n cael eu dyrannu yn ôl trefn rota.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 29/05/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg adnabyddadwy a chymhwyster TGAU mewn Saesneg a Mathemateg o leiaf
- Trwydded yrru lawn lân wrth gychwyn yn y swydd
- Gwybodaeth ymarferol dda am ddaearyddiaeth y Bwrdd Iechyd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster adnabyddadwy mewn defnyddio meddalwedd prosesu geiriau neu gronfeydd data
- Gwybodaeth am faterion yn ymwneud â gofal sylfaenol y tu allan i oriau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o brosesu geiriau a sgiliau bysellfwrdd da
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys nosweithiau, penwythnosau a Gwyliau Banc
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kerry Evans
- Teitl y swydd
- Deputy Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 772379
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
David Richards
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau
Tel: (01437) 773889
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector