Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Arbenigol Gofal Hirdymor
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Nyrs Gofrestredig a chanddi gefndir naill ai yn y maes Acíwt a Chymunedol neu ym maes Iechyd Meddwl, a bydd yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau asesu ymhellach trwy weithio mewn rôl ymreolaethol yng Ngwasanaeth Gofal Hirdymor y GIG. Mae'r rôl hon yn amlygu pwysigrwydd gwaith amlddisgyblaethol, ac yn sicrhau bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth eglur o'r polisïau a'r
gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, ynghyd â'r goblygiadau ariannol cysylltiedig a hefyd Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
A ninnau wedi dechrau ar gyfnod cyffrous o newid, rydym am recriwtio Nyrs Arbenigol Gofal Hirdymor uchel ei chymhelliant, sy'n canolbwyntio ar gleifion, ar gyfer ein Tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi nid yn unig y cleifion yn y sector cartrefi gofal ond hefyd y staff, a hynny'n rhan o Wasanaeth Cymorth ar gyfer Cartrefi Nyrsio. Mae ein nyrsys hefyd bellach yn darparu cefnogaeth trwy Lwybr Gofal Hirdymor a ddatblygwyd yn ddiweddar, sy'n cynnwys cefnogi gofal eilaidd gyda phrosesau Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG. Bwriad y llwybr newydd hwn yw sicrhau cyfnod pontio hwylus, sy'n canolbwyntio ar y claf, rhwng digwyddiad acíwt, trwy'r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau, ac yna lleoli mewn Cartref Nyrsio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr unigolyn yr ydym yn chwilio amdano yn Nyrs brofiadol frwdfrydig, sy'n meddu ar sgiliau asesu a chyfathrebu rhagorol ac yn mwynhau her. Mae gennym dîm o Nyrsys Arbenigol Gofal Hirdymor sy'n gweithio'n agos gyda nifer o weithwyr proffesiynol eraill. Ar ben hynny, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adolygu ac yn asesu cleifion ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, yn ogystal â rheoli cyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol mewn perthynas â chyllid a chynllunio rhyddhau, ac ati.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus amlygu sgiliau cyfathrebu rhagorol a meddu ar y gallu i weithio'n rhan o dîm ac yn annibynnol, fel ei gilydd. Yn ogystal ag asesu ac adolygu unigolion i sicrhau bod eu hanghenion gofal dynodedig yn cael eu diwallu a bod y cyllid yn briodol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn monitro'r safonau gofal mewn Cartrefi Nyrsio.
Gall lleoliad y gwaith fod yn naill ai Caerfyrddin, Llanelli neu Ddoc Penfro, ond gall hynny newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi allu teithio ledled holl ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal ag i siroedd cyfagos.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyhelir cyfweliadau ar 05/06/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig lefel gyntaf
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus i lefel diploma ol-raddedig neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i ddysgu gydol oes
- Cymhwyster o ran gofal oedolion hyn
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes Gofal Iechyd sylfaenol, eilaidd a/neu annibynnol
- Gwybodaeth a phrofiad o ofalu am bobl sydd ag anghenion gofal parhaus
- Profiad o asesu a gofalu am oedolion hyn
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithdrefnau a pholisiau amlasiantaethol
- Profiad blaenorol o asesiadau nyrsio cymhleth
- Profiad o weithio rhyngasiantaethol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Danielle Charles
- Teitl y swydd
- Long Term Care Specialist Nurse Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554783624
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a deintyddol neu bob sector