Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Asma
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR080-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sir Caerfyrddin
Tref
Llanelli
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Arbenigol Asthma Rhyngwynebol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am nyrs frwdfrydig, ofalgar ac ymroddedig i ymuno â thîm o Nyrsys Arbenigol Rhyngwyneb Asthma sy'n gweithio ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Lleolir y swydd hon yng nghlwstwr Llanelli, lle bydd yn cefnogi practisau gofal sylfaenol yr ardal, ond mae'n bosibl y bydd gofyn gweithio ledled y Bwrdd Iechyd. Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gefnogi'r Clinig Asthma Anodd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Mae'r swydd yn un ran-amser, a hynny am 30 awr yr wythnos.

Bydd deiliad y swydd yn darparu rôl ddeuol trwy weithio ar draws y meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd. Ym maes gofal sylfaenol bydd yn gweithio yng ngrŵp cleifion y gwasanaethau asthma i adolygu eu gofal a sicrhau ei fod yn bodloni canllawiau NICE. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi nyrsys y practisau mewn modd sy'n briodol i bob practis unigol. Gallai hyn olygu cefnogi datblygiad nyrs y practis neu weld y cleifion mwy cymhleth mewn clinig dynodedig yn achos rhai practisau.

Ym maes gofal eilaidd bydd yn cefnogi'r gwasanaeth asthma difrifol. Bydd y gefnogaeth hon yn cynnwys gweld cleifion ag asthma difrifol mewn clinig sydd dan oruchwyliaeth arweinydd y gwasanaeth asthma difrifol, a rheoli cleifion ar feddyginiaethau biolegol, gan gynnwys presgripsiynu meddyginiaethau biolegol ar gyfer y grŵp hwn.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn mynychu tîm amlddisgyblaethol asthma Cymru gyfan ac yn cyflwyno cleifion os oes angen, a bydd yn cychwyn therapi biolegol ar gyfer y cleifion hynny y tybir eu bod yn briodol. Gellir rhoi'r gorau i drin cleifion hefyd os nad ydynt yn bodloni meini prawf NICE.

Bydd cleifion a nodir mewn gofal sylfaenol yn rhai a ystyrir yn ymgeiswyr biolegol posibl yn cael eu trafod ag arweinydd y gwasanaeth asthma difrifol, a bydd ymchwiliadau'n cael eu cychwyn cyn cynnal adolygiadau yn y clinig.

Ar draws y rhyngwyneb bydd deiliad y swydd yn cefnogi datblygiadau arloesol o ran ymchwil anadlol. 
 
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd sicrhau bod cysylltiadau da rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd yn cael eu cynnal i gefnogi taith y claf asthma ar hyd ei lwybr gofal. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynraddcymunedyn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleolyn ogystal â chydweithwyr cyhoedduspreifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  

  • Pum ysbyty cymunedolYsbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 06/05/2026.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol
  • Presgripsiynydd anfeddygol
  • Cwrs anadlol lefel uwch cydnabyddedig hyd at lefel Meistr
  • Gwybodaeth arbenigol ym maes gofal anadlol ac ymarfer amlwg, yn enwedig Asthma
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Sbirometreg achrededig ARTP
  • Hyfforddwr techneg anadlydd uwch
  • Cymhwyster addysgu
  • Cymryd rhan mewn rheoli newid
  • Tystysgrif Arfer Clinigol Da ar gyfer ymchwil
  • Gwaith cyhoeddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru perthnasol, gan gynnwys profiad ym maes gofal anadlol
  • Defnyddio profion FENO yn rhan o asesiad y claf
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ofal sylfaenol ac eilaidd
  • Profiad o ymgymryd ag archwiliadau, llunio adroddiadau a rhoi cyflwyniadau i grwpiau o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Joe Annandale
Teitl y swydd
Lead Respiratory Nurse Specialist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554783515
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Claire Hurlin Pennaeth Strategol y Gymuned a Chyflyrau Cronig  [email protected]

Tel: 07805853577

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg