Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cwnsela
Gradd
Gradd 5
Contract
1 flynedd (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad am 1 flwyddyn tan 1/12/2026 oherwydd secondiad)
Oriau
Rhan-amser - 2 x swydd 15 awr ac 1 x swydd 7.5 awr
Cyfeirnod y swydd
100-ACS204-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Bryngwyn, Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/10/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynghorwr Cefnogaeth i Oedolion a Phlant Cyn ac Ar-ôl Colled

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd am gyfnod penodol/ar secondiad am 1 flwyddyn tan 1/12/2026 oherwydd secondiad.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gwnselwyr oedolion a chwnselwyr plant medrus a phrofiadol ymuno â'n tîm. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cwnsela o safon uchel cyn ac ar ôl profedigaeth, a hynny yn y gymuned ac mewn ysbytai, ac mewn modd costeffeithiol a heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni'n unol ag arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â gofynion cyfreithiol, polisïau statudol a pholisïau'r Bwrdd Iechyd sy'n ymwneud ag ymarfer.

Y swyddi rhan-amser sydd ar gael: 
2 x swydd 15 awr ac 1 x swydd 7.5 awr 

Sicrhau bod cleientiaid yn cael gwasanaeth diogel, unigol ei ogwydd, ac effeithiol trwy asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso eu gofal. 

Byddwch yn cyfathrebu'n effeithiol bob amser ac, ar y cyd ag aelodau eraill y tîm, yn cyfrannu at ddatblygu a chynnal athroniaeth y gwasanaeth ar gyfer oedolion a phlant, gan weithio yn amgylchedd yr ysbyty.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cymryd rhan yn y broses o gynnal a datblygu cymorth a gofal o ansawdd uchel i gleientiaid yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd tystiolaeth ymchwil, arfer gorau a barn glinigol arbenigol yn sail i'r gwasanaeth hwn.

Bydd gennych  gyfrifoldeb a gynorthwyir am reoli llwyth achosion diffiniedig heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Bydd deiliad y swydd yn asesu, monitro a chydlynu rhaglen ofal therapiwtig unigol mewn partneriaeth â chleientiaid, ac sy'n briodol i'r angen, y cyd-destun a'r diwylliant. Nod hyn yw grymuso a hybu iechyd. Cyflawnir hyn gan ddefnyddio offer asesu cydnabyddedig, yn ogystal â barn glinigol a model penodol o hybu iechyd.

Adnabod a hyrwyddo arfer gorau, a hefyd gydnabod arfer anniogel ac adrodd amdano mewn modd priodol.

Darparu gwybodaeth gywir, sydd wedi'i theilwra i anghenion unigol cleientiaid a'u dealltwriaeth o'r broses brofedigaeth.

Cynhelir y cyfweliadau ar 23/10/2025

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn gofrestredig gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)
  • Diploma Perthnasol mewn Cwnsela
  • Yn achrededig, neu'n gweithio tuag at achrediad
  • Tystiolaeth o ymarfer perthnasol ym maes galar
Meini prawf dymunol
  • Cymwysterau cwnsela perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gweithio ym maes cwnsela galar/profedigaeth oedolion a phlant
  • Bod yn destun goruchwyliaeth glinigol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o sbectrwm eang o brofiad cwnsela perthnasol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Amanda Cardell
Teitl y swydd
Senior Bereavement/SPC Counselling Co-ordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227639
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg