Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dermatoleg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Gradd Arbenigol
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 40 awr yr wythnos (10 sesiwn)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-SG-013
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £104,401 - £115,343 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gradd Arbenigol Dermatoleg Gradd Arbenigol
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Gradd Arbenigol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Gwasanaeth Dermatoleg yng Ngorllewin Cymru yn darparu gofal arbenigol ar draws poblogaeth fawr, sydd wedi’i gwasgaru’n ddaearyddol ac sy’n wledig yn bennaf. Mae’r gwasanaeth yn rheoli ystod eang o gyflyrau dermatolegol, gan gynnwys achosion o ganser y croen a amheuir ac a gadarnhawyd, clefydau llidiol cronig y croen, ac achosion dermatolegol cymhleth y mae gofyn i glinigwyr profiadol a medrus iawn eu hasesu a’u trin. Mae’r galw am wasanaethau dermatoleg yn parhau i gynyddu, wedi’i sbarduno gan gyffredinrwydd cynyddol canser y croen, poblogaeth sy’n heneiddio, a chymhlethdod cynyddol y cleifion y mae angen gofal arbenigol arnynt.
Mae’r swydd hon yn hanfodol i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau dermatoleg diogel, effeithiol ac amserol yn barhaus ar draws y rhanbarth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm ymroddedig, profiadol ac amlddisgyblaethol sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon, sy’n canolbwyntio ar y claf i boblogaeth Gorllewin Cymru. Bydd y rôl yn cyfrannu’n sylweddol at gynnal capasiti’r gwasanaeth, lleihau amseroedd aros, gwella mynediad cleifion at asesiad arbenigol, a chefnogi’r gwaith o gyflawni targedau perfformiad cenedlaethol a lleol.
Bydd penodi i’r swydd hon yn cryfhau cynaliadwyedd a gwydnwch y Gwasanaeth Dermatoleg, gan sicrhau bod gofal o safon yn cael ei ddarparu’n barhaus i gleifion ledled Gorllewin Cymru, a chan hefyd gefnogi arloesi a’r broses o drawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol o fewn yr arbenigedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â rôl glinigol amrywiol a gwerth chweil ar draws holl sbectrwm y gwasanaethau dermatoleg, gyda chyfrifoldeb penodol am ddiagnosio a thrin cleifion â chlefydau llidiol y croen a chanser y croen a’u rheoli’n barhaus. Gan weithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol medrus iawn, bydd deiliad y swydd yn darparu rheolaeth ac asesiad clinigol arbenigol ar gyfer ystod eang o gyflyrau dermatolegol, gan sicrhau bod cleifion yn cael gofal o safon, seiliedig ar dystiolaeth, a hynny mewn modd prydlon a thosturiol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno clinigau dermatoleg cleifion allanol i gleifion sy’n ymgyflwyno â chyflyrau dermatolegol arferol a chymhleth. Bydd hyn yn cynnwys asesu, diagnosio, cynllunio triniaeth, a rheoli anhwylderau llidiol cronig yn yr hirdymor. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gydweithio â chyd-weithwyr gofal sylfaenol ac arbenigeddau eraill i sicrhau llwybrau gofal cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y claf.
Bydd elfen sylweddol o’r rôl yn canolbwyntio ar wasanaethau canser y croen, gan gynnwys asesu a rheoli cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio trwy lwybrau brys lle’r amheuir canser. Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys diagnosio briwiau croen malaen a chyn-falaen, llunio cynlluniau triniaeth, cwnsela cleifion, a chymryd rhan mewn clinigau gwyliadwriaeth a dilynol. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gyflawni targedau canser cenedlaethol trwy gefnogi’r gwaith o sicrhau bod asesiad, diagnosis a thriniaeth arbenigol yn digwydd mewn pryd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd sesiynau mân weithdrefnau llawfeddygol pwrpasol yn rhan o’r cynllun swydd, gan alluogi deiliad y swydd i ymgymryd ag ystod o weithdrefnau dermatolegol o fewn ei gymhwysedd clinigol. Gall hyn gynnwys biopsïau diagnostig, toriadau briwiau croen, ciwretiad, a mân ymyriadau llawfeddygol eraill. Bydd y rôl yn cefnogi’r gwaith o ddarparu llwybrau cleifion effeithlon trwy ddarparu triniaeth yn nes at y cartref a lleihau’r angen i atgyfeirio ymlaen lle bo hynny’n briodol.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan weithredol mewn prosesau brysbennu clinigol, gan adolygu atgyfeiriadau i sicrhau bod cleifion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol a’u blaenoriaethu yn ôl brys clinigol. Bydd hyn yn cyfrannu at reoli galw’n effeithiol, gwell llif cleifion, a’r defnydd gorau posibl o’r capasiti clinigol sydd ar gael.
Bydd cyfranogiad mewn gwasanaethau teledermatoleg a teledermosgopi yn elfen allweddol o’r rôl, gan gefnogi arloesi wrth ofalu am gleifion a galluogi asesiad cynharach o achosion o ganserau’r croen a amheuir a chyflyrau dermatolegol eraill. Bydd deiliad y swydd yn darparu dehongliad arbenigol o ddelweddau clinigol a dermosgopig, gan hwyluso diagnosis mewn da bryd a chwtogi ar deithio diangen gan gleifion ledled ardal wledig Gorllewin Cymru.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu’n llawn at waith tîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol Canser y Croen a chydweithio â chyd-weithwyr. Mae cyfranogi mewn tîm amlddisgyblaethol yn hanfodol i sicrhau penderfyniadau clinigol graenus, cynllunio triniaeth effeithiol, a darparu gofal integredig i gleifion â chyflyrau cymhleth.
Yn ogystal â dyletswyddau clinigol, bydd deiliad y swydd yn cael cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygiad a thrawsnewid gwasanaethau dermatoleg yn barhaus. Gall hyn gynnwys ymwneud â mentrau gwella ansawdd, prosiectau ailgynllunio gwasanaethau, datblygu llwybrau, gweithgarwch archwilio, a gweithredu modelau gofal arloesol sy’n anelu at wella profiad cleifion, canlyniadau clinigol, ac effeithlonrwydd gwasanaethau.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys ymrwymiad i lywodraethu clinigol, datblygiad proffesiynol parhaus, addysgu a goruchwylio, lle bo hynny’n briodol. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynnal safonau uchel o ymarfer clinigol ac yn cefnogi datblygiad cyd-weithwyr meddygol, nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o fewn y gwasanaeth.
Ar y cyfan, mae’r swydd hon yn gyfle gwych i gyfrannu at wasanaeth dermatoleg blaengar sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel, cynaliadwy o safon i boblogaeth Gorllewin Cymru.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:
Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
Ffordd o fyw yng Nghymru –https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA
Taith rhithwir - https://youtu.be/OvwKkiEtR3M
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys ATLS / ALS / PALS.
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- • O leiaf 12 mlynedd o brofiad ers cymhwyster meddygol sylfaenol gydag o leiaf 6 blynedd o fewn y maes arbenigedd (naill ai cyfnod parhaus neu gyfangwbl).
- • Tystiolaeth o arwain tîm.
- • Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- • Tystiolaeth o reoli newid, gwella ansawdd neu archwilio.
Meini prawf dymunol
- • Profiad blaenorol o weithio yn y GIG.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff..
- • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster addysgu uwch.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- • Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o arwain archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd).
- • Gwybodaeth am reoli risg.
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
- • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Widsom
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





