Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Addysg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol: Llawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC217-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cydgysylltydd y Rhaglen Sylfaen

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn drefnus iawn, yn rhoi sylw i fanylion, ac yn frwdfrydig dros ben ynghylch cefnogi Meddygon Preswyl o ran eu taith hyfforddi? Rydym yn chwilio am Gydgysylltydd y Rhaglen Sylfaen sy'n ymroddedig ac yn rhagweithiol i ymuno â'r tîm Addysg Feddygol yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli. 

Mae hon yn rôl allweddol i oruchwylio'r broses o redeg ein Rhaglen Hyfforddi Sylfaenol mewn modd hwylus a chefnogi'r gwaith o ddatblygu ein cenhedlaeth nesaf o Feddygon Preswyl. 

Yn rôl Cydgysylltydd y Rhaglen Sylfaen, byddwch yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar yr Hyfforddiant Sylfaen, gan weithio'n agos gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Sylfaen, y Rheolwr Addysg Feddygol, Goruchwylwyr Clinigol ac Addysgol, a'r tîm gweinyddol ehangach, i sicrhau bod blynyddoedd 1 a 2 y Rhaglen Sylfaen yn cael eu cyflawni a'u 
gweinyddu mewn modd effeithiol ac i'r safon ansawdd uchaf, yn unol â gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol, AaGIC, a Rhaglen Sylfaen y DU (UKFPO). 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrifoldebau Allweddol:

·         Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr i'r Rhaglen Sylfaen.

·         Cydlynu'r trefniadau Cynefino, y sesiynau addysgu gorfodol, a'r        asesiadau ar gyfer hyfforddeion sylfaen.

·         Monitro Cynnydd Hyfforddeion Sylfaen trwy bob lleoliad pedwar mis o hyd, gan sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i wneud cynnydd boddhaol. 

·         Cynorthwyo gyda'r broses ARCP, cynnal cofnodion cywir, a gweinyddu portffolio'r hyfforddeion sylfaen.

·         Darparu cymorth bugeiliol i'r Meddygon Sylfaen sydd wedi'u lleoli yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

·         Darparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd i redeg y Ganolfan Addysg Feddygol.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 28.08.25

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 4, e.e. HNC/HND, cymhwyster Diploma neu brofiad profedig o waith ar y lefel hon
  • Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau gweinyddol
  • Gwybodaeth am systemau TG, gan gynnwys Outlook a chymwysiadau Microsoft Office
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am y broses Addysg Feddygol yn y Gwasanaeth Iechyd

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol prysur
  • Profiad o drefnu cyfarfodydd
  • Profiad o drefnu digwyddiadau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol
  • Profiadau blaenorol o ddefnyddio offer VC

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carley Box and Cerys Walters
Teitl y swydd
Medical Education Manager (Job-Share)
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 781086
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am sgwrs anffurfiol neu ymweliad â'r adran, cysylltwch â:

Carley Box and Cerys Walters - Rheolwr Addysg Feddygol (Rhannu swydd)

[email protected]   

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg