Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Haematoleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Am amser llawn, ond byddai'n ystyried 30 awr)
Cyfeirnod y swydd
100-AC178-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/06/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-ysgrifennydd Meddygol

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Adran Hematoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion effeithlon, llawn cymhelliant sydd â'r cymwysterau priodol am swydd Uwch-ysgrifennydd Meddygol Band 4 yn yr adran Hematoleg ar Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac o ansawdd i'r Meddygon Ymgynghorol a'u timau.

Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys derbyn a dosbarthu post, trawsgrifio sain, a theipio llythyrau ac adroddiadau sensitif iawn, gan gynnal cyfrinachedd bob amser. Bydd disgwyl i chi amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu eich ffordd o weithio. Rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, gan amlygu doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny'n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol. 

Mae profiad o Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig a phrofiad blaenorol o derminoleg feddygol, yn hanfodol. Bydd gofyn i chi ddefnyddio system cronfa ddata cleifion y Bwrdd Iechyd a phecynnau TG perthnasol eraill. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

•    Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 03/07/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad cyfatebol amlwg o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
  • Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau o ran gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ysgrifenyddol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
  • Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
  • Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaeth

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Caryl Harris
Teitl y swydd
Pathology Administrative Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227521
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg