Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
- Gradd
- Gradd 4 / Atodiad 21
- Contract
- 24 mis (Cyfnod Penodol / secondiad am 24 mis hyd at 01/09/2027 oherwydd cyllid)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS176-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/07/2025
Teitl cyflogwr

Technegydd Fferylliaeth Cyn-gofrestru (Hyfforddiant ôl)
Gradd 4 / Atodiad 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN HYD 01/09/2027 OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau gofynnol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).
Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau.
Yn ystod yr hyfforddiant dwy flynedd, disgwylir i chi ennill profiad sy'n adlewyrchu rolau newidiol a chynyddol y Technegydd Fferyllol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi.
Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol ac yn ddiddorol ac yn datblygu rolau newydd yn barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i archwilio'r rôl arloesol hon mewn rhaglen hyfforddi gylchdro. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward.
I gwblhau'r rhaglen bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar y gallu a'r brwdfrydedd i ymgymryd â rhaglen brentisiaeth fodern, a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae hyn yn golygu gweithio'n llawn-amser (37.5 awr yr wythnos) mewn fferyllfa, adeiladu portffolio o dystiolaeth, cael eich asesu yn y gwaith, dysgu ar-lein, ymgymryd â diwrnodau astudio a gwaith grŵp, a dilyn Safonau GPhC ar gyfer Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol. Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi.
Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol, ac i ymgeisio am swyddi technegydd fferyllol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n tri awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
Pum ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Mae'r swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm yn cyfeirio at y swydd y byddech yn gweithio tuag ati. Ni fydd y rheiny sydd ar hyn o bryd yn meddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Fferylliaeth, NVQ lefel 3 mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol yn cael eu hystyried.
I sicrhau lle ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf bedwar TGAU, graddau A*-C (graddau newydd 9-4) neu gymwysterau cyfatebol, gan gynnwys:
TGAU Saesneg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o iaith Saesneg, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cyfathrebu Lefel 2.
TGAU Mathemateg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o rifedd, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cymhwyso Rhif Lefel 2.
Un TGAU Gwyddoniaeth Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu gymhwyster cyfatebol.
Efallai y bydd angen i'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn unol â'r egwyddorion ‘cyfatebol’, e.e. mynediad i gyrsiau addysg uwch, gwblhau cymwysterau ‘cyfathrebu’ a ‘cymhwyso rhif’ Sgiliau Hanfodol Cymru.
Sylwch, bydd angen profi cymwysterau ar ddiwrnod yr cyfweliad, bydd methiant i ddarparu tystiolaeth yn golygu na chaiff y cyfweliad ei barhau.
Byddwch yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sydd wedi'i chymeradwyo gan y GPhC ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd nad yw eisoes yn meddu ar gymhwyster ‘llythrennedd digidol’ Sgiliau Hanfodol Cymru gwblhau hwn yn rhan o'r rhaglen.
Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi. Mae profiad o weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol, ynghyd â phrofiad mewn fferyllfa, yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ennill cymhwyster Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferylliaeth cyn pen dwy flynedd a bydd yn cael ei benodi o dan reolau Atodiad 21. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 4, ac yn 75% yn yr ail flwyddyn.) Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus.
Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 08.07.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lleiafswm o 4 TGAU - Gradd C neu uwch gan gynnwys mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o amgylchedd fferylliaeth
- Profiad o weithio'n effeithiol o fewn tîm ac yn annibynnol
- Profiad Gwasanaethau Cwsmeriaid
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Graham
- Teitl y swydd
- Chief Pharmacy Technician for Patient Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783207
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â’r adran fferylliaeth, cysylltwch ag Emma Graham ar 01554 783207.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector