Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC256-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/09/2025
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol - Tîm Gofal Cartref Fferylliaeth
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n gweithio'n dda mewn tîm ac sy'n dymuno gweithio mewn tîm amrywiol ac arloesol.
Mae darparu meddyginiaeth trwy'r llwybr gofal yn y cartref yn wasanaeth sy'n tyfu, ac sydd o fudd i gleifion a chlinigwyr fel ei gilydd. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n llawn cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ac i gefnogi'r broses o'i esblygu
Byddwch wedi eich lleoli yn y tîm fferyllol gofal yn y cartref yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli ac yn meithrin perthnasoedd gwaith agos â chleifion, darparwyr gwasanaethau a thimau clinigol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl yn cynnwys tasgau clercol a gweinyddol i gefnogi'r gwaith o redeg gwasanaeth y tîm gofal yn y cartref o ddydd i ddydd i'r Bwrdd Iechyd. Byddwch yn gyfrifol am reoli presgripsiynau ar gyfer cleifion sy'n cael eu meddyginiaethau trwy'r llwybr gofal yn y cartref cynnal cofnodion cywir a datrys ymholiadau.
Yn ychwanegol, bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda thimau cyllid a chaffael, gan sicrhau bod archebion ac anfonebau'n cael eu prosesu mewn modd amserol; darparu data ar gyfer anfonebu am feddyginiaethau cost uchel; a chysylltu â chlinigwyr i sicrhau bod presgripsiynau gofal yn y cartref yn cael eu darparu'n amserol.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur, meddu ar sgiliau trefnu profedig, y gallu i flaenoriaethu eu gwaith, a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ym maes Rheoli Meddyginiaethau Fferyllfa na Gofal yn y Cartref, ond mae brwdfrydedd dros her newydd a pharodrwydd i ddysgu yn allweddol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/09/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- RSA 3 neu brofiad cyfwerth amlwg
- NVQ 2 Gweinyddu neu brofiad cyfwerth amlwg
- Safon uchel o addysg gyffredinol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o ran rôl gweinyddiaeth yn y gwasanaeth iechyd, er enghraifft yr angen i ddilyn polisïau a gweithdrefnau
- Yn deall pwysigrwydd cadw cyfrinachedd bob amser
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am y system TG Iechyd
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
- Profiad helaeth o gysylltu a chyfathrebu â'r cyhoedd.
- Profiad o gydlynu a blaenoriaethu nifer o ofynion gwrthgyferbyniol mewn modd effeithiol.
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft a systemau TG, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Profiad o fwrw ati i ddatrys problemau arferol.
Meini prawf dymunol
- Wedi gweithio yn amgylchedd y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd lle gallai llawer o bethau torri ar eich traws
- Gallwedd i deithio i safleoedd eraill mewn amser priodol.
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Thomas Watkeys
- Teitl y swydd
- Senior Homecare Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783481
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Argymhellir eich bod yn cysylltu â'r tîm i gael sgwrs anffurfiol i drafod y rôl ymhellach neu i drefnu ymweliad â'r adran.
I gael rhagor o fanylion/drefnu ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:
Tom Watkeys
01554 783481
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector