Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 4 / Atodiad 21
Contract
24 mis (Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 11/02/2028 oherwydd cyllid)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS240-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
10/12/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd Fferylliaeth Cyn-gofrestru (Swydd Hyfforddiant)

Gradd 4 / Atodiad 21

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 11/02/2028 oherwydd cyllid.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau gofynnol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).

Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau. 

Yn ystod yr hyfforddiant dwy flynedd, disgwylir i chi ennill profiad sy'n adlewyrchu rolau newidiol a chynyddol y Technegydd Fferyllol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi.  

Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol ac yn ddiddorol ac yn datblygu rolau newydd yn barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i archwilio'r rôl arloesol hon mewn rhaglen hyfforddi gylchdro. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward. 

I gwblhau'r rhaglen bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar y gallu a'r brwdfrydedd i ymgymryd â rhaglen brentisiaeth fodern, a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae hyn yn golygu gweithio'n llawn-amser (37.5 awr yr wythnos) mewn fferyllfa, adeiladu portffolio o dystiolaeth, cael eich asesu yn y gwaith, dysgu ar-lein, ymgymryd â diwrnodau astudio a gwaith grŵp, a dilyn Safonau GPhC ar gyfer Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol. Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi. 

Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol, ac i ymgeisio am swyddi technegydd fferyllol.  

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rôl a ariennir gan HEIW ar gyfer hyfforddeion yn unig yw hon.

Mae'r swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm yn cyfeirio at y swydd y byddech yn gweithio tuag ati. Ni fydd y rheiny sydd ar hyn o bryd yn meddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Fferylliaeth, NVQ lefel 3 mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol yn cael eu hystyried. 

I sicrhau lle ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf bedwar TGAU, graddau A*-C (graddau newydd 9-4) neu gymwysterau cyfatebol, gan gynnwys: 

  • TGAU Saesneg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o iaith Saesneg, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cyfathrebu Lefel 2. 
  • TGAU Mathemateg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o rifedd, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cymhwyso Rhif Lefel 2. 
  • Un TGAU Gwyddoniaeth Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu gymhwyster cyfatebol.  

Efallai y bydd angen i'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn unol â'r egwyddorion ‘cyfatebol’, e.e. mynediad i gyrsiau addysg uwch, gwblhau cymwysterau ‘cyfathrebu’ a ‘cymhwyso rhif’ Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd prawf o'ch cymwysterau yn ofynnol.  

Bydd prawf o'ch cymwysterau yn ofynnol ar ddiwrnod y cyfweliad. Os na ddarperir tystysgrifau ar y diwrnod, ni fyddwn yn gallu parhau â'r cyfweliad.

Byddwch yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sydd wedi'i chymeradwyo gan y GPhC ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd nad yw eisoes yn meddu ar gymhwyster lefel 2 ‘llythrennedd digidol’ Sgiliau Hanfodol Cymru gwblhau hwn yn rhan o'r rhaglen. 

Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi. Mae profiad o weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol, ynghyd â phrofiad mewn fferyllfa, yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.  

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ennill cymhwyster Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferylliaeth cyn pen dwy flynedd a bydd yn cael ei benodi o dan reolau Atodiad 21. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 4, ac yn 75% yn yr ail flwyddyn.)  Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus.

Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 10/12/2025

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lleiafswm o 4 TGAU - Gradd C neu uwch gan gynnwys mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o amgylchedd fferylliaeth
  • Profiad o weithio'n effeithiol o fewn tîm ac yn annibynnol
  • Profiad Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emma Graham
Teitl y swydd
Chief Pharmacy Technician for Patient Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783207
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â’r adran fferylliaeth, cysylltwch ag Emma Graham ar 01554 783207.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg