Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Oriau cywasgedig
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP011-0225-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Eastgate
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/07/2025
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Gofal Canolraddol Arbenigol
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyflwyno cyfle cyffrous i Ffisiotherapydd llawn cymhelliant a phrofiadol ymuno â'n tîm sydd wedi ennill Gwobrau gan y GIG ac Iechyd Cyhoeddus, sef y “Tîm Cartref yn Gyntaf,” (Gwasanaethau Gofal Canolraddol) yn Sir Gaerfyrddin.
https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/improvement-cymru-academy/nhs-wales-awards/2022/2-delivering/hduhb-mdt-carmarthenshire/
Dyma ddolen i fideo o'n ffisiotherapyddion o fewn y tîm, yn adrodd eu stori a'u profiad o weithio yn ein tîm:-
https://youtu.be/UJv5vqEO748?si=I5bJhYLjimkeYcBH
Rydym yn dîm arloesol, cynhwysfawr o Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi, Deietegwyr, Nyrsys, Meddygon Teulu, Uwch-ymarferwyr Parafeddygol, Uwch-ymarferwyr Nyrsio, Cymdeithion Meddygol, Gweithwyr Cymdeithasol, Uwch-weithwyr Ailalluogi ac Asiantau Trydydd Sector sy'n ymdrechu i ddarparu'r cymorth iawn, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn mor agos i gartref â phosibl.
Bydd y rolau hyn yn rhan o’r Tîm Amlddisgyblaethol “Cartref yn Gyntaf”, sy'n cydweithio i ddarparu ymyriadau cynnar a chyfnodau o adsefydlu ac asesu yn y gymuned er mwyn lliniaru ar unwaith effeithiau unrhyw weithrediad a gollir, y risg o ddadgyflyru, diffyg maeth, a dirywiad mewn iechyd meddwl pobl, a hynny i gynyddu'r amser y byddant yn ei
dreulio gartref yn hytrach nag yn yr ysbyty.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ein ffordd o weithredu yw darparu gofal cleifion mewn modd holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gefnogi cleifion, pan fo’n bosibl, i aros/dychwelyd mewn modd diogel i’w cartrefi eu hunain lle gallant barhau i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymuned eu hunain.
A chithau'n unigolyn ôl-raddedig amryddawn, bydd gennych sylfaen glinigol gadarn ym maes adsefydlu pobl hŷn, arbenigedd o ran syndrom eiddilwch, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau cardio-anadlol a phroblemau cyhyrysgerbydol, a dealltwriaeth dda o faterion cyfredol sy'n effeithio ar ofal canolraddol a gwasanaethau cymunedol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar allu rhagorol i weithio'n annibynnol, gan reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol ac anrhagweladwy. Bydd hefyd yn ofynnol i chi feddu ar y gallu i addasu i amgylchedd sy'n newid yn gyflym ac sydd dan bwysau, a hynny ochr yn ochr ag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol. Disgwylir i ddeiliaid y swyddi gefnogi a goruchwylio staff Ffisiotherapi iau, Technegwyr Ffisiotherapi, Cynorthwywyr Ailalluogi/Gweithwyr Cymorth Eiddilwch a myfyrwyr.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth ffisiotherapi cymunedol, gynnal momentwm wrth drawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled sefydliadau er budd pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Teitl: ‘‘Meet the Hywel Dda Team – Open Q&A Session’
Disgrifiad:
- Ydych chi'n Ffisiotherapydd cofrestredig sy'n chwilio am gyfle newydd neu'n edrych i adleoli i Orllewin Cymru?
- Yn chwilfrydig am y Tîm Gofal Canolradd a sut beth yw gweithio gyda ni?
Dewch i gwrdd â'n harweinwyr gwasanaeth presennol. Dyma'ch cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a chael teimlad go iawn o'n tîm a'n hamgylchedd gwaith.
Dyddiad: 10fed Gorffennaf
Amser: 6pm – 7pm
Lleoliad: Timau
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gysylltu a dysgu mwy am eich dyfodol gyda Hywel Dda!
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa gyffrous gyda ni. https://forms.office.com/e/tkjVnKcKJF
Rydym ni yn y Gwasanaeth Ffisiotherapi yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf, ac yn cydnabod hefyd bwysigrwydd cynnig cyfleoedd dysgu i gefnogi staff i ddatblygu, a hynny'n fewnol ac yn allanol. Eir ati i annog staff i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig, ac mae yna gyfleoedd ar gael i wneud cais am gyllid a rennir.
Mae'r pandemig wedi dangos i ni yn fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio'n hyblyg.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd hyn yn ôl trefn rota.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/07/2025.
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch y swyddi hyn, yna mae croeso i chi gysylltu – byddem wrth ein bodd yn dod i'ch adnabod ac yn ateb eich cwestiynau.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ôl-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôlraddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau/cylchdroadau craidd
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio'n rhyngbroffesiynol ac mewn tîm
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddatblygu gwasanaeth
- Profiad o weithio i'r GIG
- Tystiolaeth o oruchwyliaeth myfyrwyr
- Trafod arferion gwaith MDT
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd.
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Adele Davies
- Teitl y swydd
- Bed Based Intermediate Care Physiotherapy Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Indeg Jameson
Arweinydd Ffisiotherapi Cymunedol Sir Gaerfyrddin
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector