Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Mae’r amser gweithio yn amrywio rhwng 8am-5.15pm ac 8.45am-5pm (ar rota). Gwaith penwythnos ar rota.)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS158-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/07/2026
Teitl cyflogwr
Uwch Weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol, gweithgar a gofalgar i ymuno â'n tîm mewn swydd Uwch-weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg yn yr Adran Radioleg yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.
Mae hon yn swydd lawn-amser yn yr adran.
Cynhelir y cyfweliadau ar 14/7/26
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i chi fod yn unigolyn sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ac sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych.
Rhaid i chi fod yn amyneddgar ac yn drefnus a gallu gweithio'n dda mewn tîm, ond dylech hefyd feddu ar y gallu i fentro a gweithio ar eich pen eich hun.
Ymhlith y dyletswyddau y mae:
- Cynorthwyo'r Radiograffwyr sy'n gweithio yn y maes clinigol
- Cyflawni dyletswyddau clercol a gweinyddol
- Croesawu cleifion a'u hebrwng i ystafelloedd newid
- Cynorthwyo cleifion i baratoi ar gyfer gweithdrefnau delweddu
- Cynorthwyo'r radiograffwyr a'r cleifion yn ystod ac ar ôl y gweithdrefnau delweddu.
- Gosod canwlâu mewnwythiennol ar gyfer cleifion yn dilyn hyfforddiant
- Tasgau glanhau a hylendid cyffredinol yn yr adran
- Cyfrif stoc ac archebu nwyddau traul dynodedig
Byddai profiad blaenorol mewn ysbyty yn ddymunol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc gofal iechyd perthnasol, neu feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad cyfatebol ac ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant yn y swydd hyd at achrediad NVQ Lefel 3
- Dealltwriaeth o rôl gweithwyr cymorth radiograffeg
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth sylfaenol am anatomeg a ffisioleg
- Gwybodaeth am waith clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio gyda'r cyhoedd mewn rolau cyflogedig neu wirfoddol
- Profiad o ddefnyddio cyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn rôl gefnogol/cynorthwyol fel Gweithiwr Cymorth Radioleg neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) neu brofiad o weithio mewn ysbyty/amgylchedd gofalu
- Profiad mewn ystod o sgiliau clinigol gan gynnwys technegau aseptig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu symud a thrin offer a chynorthwyo gyda chodi a chario cleifion
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rhian Munson
- Teitl y swydd
- Deputy Site Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





