Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymchwil
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- 2 flynedd (Cyfnod penodol / secondiad am 2 flynedd tan 31/08/2027 oherwydd cyllid)
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC204-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/08/2025
Teitl cyflogwr

Arweinydd y Tîm Ymchwil Fasnachol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/Secondiad am 2 flynedd tan 31/08/2027 oherwydd cyllid.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
A ydych yn weithiwr ymchwil proffesiynol brwdfrydig sy'n barod i arwain arloesedd ymmaes gofal cleifion? Ymunwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel Arweinydd y Tîm Ymchwil Anadlol a chwaraewch rôl ganolog wrth gyflawni ymchwil glinigol fasnachol a phortffolio arloesol ar draws ein rhanbarth.
Yn y rôl ddynamig hon, byddwch yn arwain tîm talentog, yn rheoli portffolio amrywiol o dreialon clinigol, ac yn gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol i ddod â'r cyfleoedd ymchwil diweddaraf i'n cleifion. Byddwch yn cyfuno sgiliau clinigol arbenigol ag arweinyddiaeth gref, ac yn arwain astudiaethau o'r cam sefydlu i'r cam cyflawni, gan sicrhau'r safonau uchaf o ran llywodraethu ymchwil a gofal cleifion.
Byddwch yn ffynnu yma os ydych wrth eich bodd ag amrywiaeth; un diwrnod yn cynghori clinigwyr ar brotocolau treialon, y diwrnod nesaf yn cefnogi cleifion trwy benderfyniadau cymhleth ynghylch eu triniaeth, a bob amser yn chwilio am ffyrdd o dyfu ein portffolio ymchwil. Bydd eich gwaith yn llywio dyfodol gofal iechyd yn uniongyrchol, a byddwch yn
rhan o dîm sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yr Hyn y Byddwch yn ei Wneud a'r Hyn yr Ydym yn Chwilio Amdano:
Arwain ac ysbrydoli tîm — Arwain tîm arbenigol o nyrsys anadlol, nyrsys/swyddogion ymchwil a chynorthwywyr ymchwil, gan gefnogi eu datblygiad a chadw pawb yn llawn cymhelliant ac ar y trywydd iawn.
Cynnal treialon clinigol cymhleth — Goruchwylio'r gwaith o sefydlu astudiaethau, recriwtio cleifion, cydsynio, casglu data, a chamau dilynol, gan sicrhau bod treialon yn bodloni rheoliadau a safonau ansawdd uchel.
Cefnogi cleifion a theuluoedd — Esbonio astudiaethau ymchwil yn glir, eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus, a darparu gofal tosturiol trwy gydol eu taith.
Gweithio ar y cyd — Cysylltu'n hyderus â chlinigwyr, noddwyr, cyrff rheoleiddio a gwasanaethau cymorth i sicrhau bod gwaith ymchwil yn mynd rhagddo'n hwylus.
Datrys problemau a blaenoriaethu — Cydbwyso sawl astudiaeth, ymdrin â heriau'n bwyllog, a meddwl ar eich traed i sicrhau bod prosiectau'n symud yn eu blaen.
Cynnal safonau uchel — Cynnal Arfer Clinigol Da a threfniadau llywodraethu ymchwil, gan roi sylw agos i fanylion a chadw cofnodion manwl.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn meddu ar brofiad sylweddol yn y GIG, gan gynnwys treialon masnachol yn ddelfrydol.
- Yn gallu arwain a datblygu tîm gydag empathi a hyder.
- Yn gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth yn glir i weithwyr proffesiynol a chleifion fel ei gilydd.
- Yn hyblyg ac yn dwlu ar weithio mewn amgylchedd amrywiol sy'n symud yn gyflym.
- Yn meddu ar gymhwyster lefel gradd (neu gyfwerth) ac yn nyrs gofrestredig, yn weithiwr iechyd proffesiynol, neu'n ymarferydd ymchwil glinigol achrededig
Os ydych yn barod am her werth chweil ac yn dymuno i'ch sgiliau a'ch arweinyddiaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 12/08/25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gyffredinol Gofrestredig neu Weithiwr Iechyd Cofrestredig a/neu Ymarferydd Ymchwil Glinigol Achrededig gydag Awdurdod Safonau Proffesiynol y DU
- Wedi cael addysg hyd at lefel Meistr (7) neu'n gweithio tuag at hynny, ac yn meddu ar wybodaeth a phrofiad cyfatebol
- Lefel gradd (6)
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus perthnasol
- Gwybodaeth a phrofiad sylweddol o fewn y GIG o ran sefydlu astudiaethau a'r prosesau cymeradwyo, recriwtio cleifion i dreialon clinigol a rheoli cleifion treialon clinigol.
Meini prawf dymunol
- PhD
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio i'r GIG ar lefel band 6 neu uwch
- Profiad o oruchwylio a chynnal rheolaeth linell ar staff
- Gwybodaeth arbenigol am ddeddfwriaeth ymchwil, Ymarfer Clinigol Da, a Fframwaith Polisi y DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- Profiad sylweddol o Ymchwil/Treialon Clinigol, gan gynnwys profiad o sefydlu a chynnal astudiaethau masnachol yn y GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad o lunio adroddiadau
- Profiad o dreialon fferyllol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Disgwylir i chi weithio ledled Hywel Dda a theithio'n rheolaidd
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Tench
- Teitl y swydd
- Assistant Head of Research Delivery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635390
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I drefnu ymweliad anffurfiol â Chanolfan Ymchwil Glinigol Ysbyty'r Tywysog Phillip, cysylltwch â Kim Davies (Cynorthwyydd Ymchwil) [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector