Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicolegydd
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Swydd llawn amser ond byddwn yn ystyried oriau rhan amser)
Cyfeirnod y swydd
100-PST014-0525-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu, Tŷ Llanion, Parc Llanion
Tref
Doc Penfro
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Seicolegydd Clinigol - Anableddau Dysgu

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym ddatblygiad cyffrous yng Ngorllewin Cymru. Rydym yn chwilio am Seicolegydd Clinigol sy'n teimlo'n angerddol dros weithio gyda phobl ag anableddau dysgu, ac sy'n frwdfrydig ac yn greadigol yn ei waith.

Mae arnom angen Seicolegydd sy'n credu mewn gweithio ochr yn ochr ag unigolion a'u rhwydweithiau i gryfhau hunaniaethau a gwerthoedd dewisol yr unigolion er mwyn galluogi posibiliadau newydd.

Byddwch yn gallu darparu asesiadau arbenigol i unigolion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd neu ofalwyr. Byddwch yn gallu llunio a chynllunio ymyriadau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ynghyd â'r rhwydwaith o'u hamgylch. Bydd gennych sgiliau o ran gweithio gydag ystod eang o faterion iechyd meddwl pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'r systemau o'u cwmpas.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynnal asesiadau seicolegol seiliedig ar brotocol ar gyfer cleifion, gan ddefnyddio profion seicolegol a seicometrig, mesurau hunanadrodd, graddfeydd sgorio, arsylwadau strwythuredig uniongyrchol ac anuniongyrchol, a chyfweliadau lled-strwythuredig â chleientiaid, aelodau o'r teulu, ac unigolion eraill sy'n ymwneud â gofal y claf.

Cynorthwyo i lunio a darparu cynlluniau gofal sy'n cynnwys triniaeth seicolegol a/neu reoli problemau cleientiaid, a hynny mewn lleoliadau cymunedol, lleoliadau cleifion mewnol a lleoliadau preswyl.

Cynorthwyo gyda chydlynu a rhedeg grwpiau therapiwtig.

Gweithio gyda staff eraill i asesu cleientiaid mewn lleoliadau cymunedol, lleoliadau preswyl a lleoliadau cleifion mewnol, ac adolygu eu gofal er mwyn paratoi ar gyfer adolygiadau amlddisgyblaethol.

Cynorthwyo i ddatblygu fframwaith dealltwriaeth a gofal ac iddo sail seicolegol, a hynny er budd holl gleientiaid y gwasanaethau ym mhob lleoliad lle y mae gofal ar waith.

Mynychu cyfarfodydd amlddisgyblaethol priodol a chyfrannu atynt.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r swydd yn gofyn am radd anrhydedd dda mewn seicoleg i gefnogi a gwella gofal seicolegol proffesiynol cleientiaid yn y gwasanaeth, gan ddarparu asesiadau seicolegol ac ymyriadau seicolegol, a gweithio'n annibynnol yn ôl cynllun ac o fewn fframwaith cyffredinol polisïau a gweithdrefnau'r tîm.

Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol clinigol-berthynol, cynnal archwiliadau, casglu ystadegau, datblygu prosiectau archwilio a/neu brosiectau eraill ac addysgu.

Yn gyffredin â phob seicolegydd clinigol, cael goruchwyliaeth glinigol reolaidd yn unol â chanllawiau ymarfer proffesiynol.

Cynorthwyo i ddylunio a gweithredu prosiectau datblygu gwasanaethau o fewn y gwasanaeth yn ôl yr angen.

Defnyddio sgiliau ymchwil gradd i gynorthwyo ac arwain y gwaith o ddatblygu a moderneiddio gwasanaethau.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 30/09/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • SeicolegyddYmarferydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn seicoleg glinigol, gan gynnwys seicopatholeg, dau neu ragor o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg ddatblygiadol hyd oes fel y'u hachredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
  • Gwybodaeth ymarferol dda am Seicometreg ac asesiadau gwybyddol, ac yn gallu eu defnyddio, ynghyd â gwybodaeth am eu cyfyngiadau a sut i'w gweinyddu
  • Gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â chymhwyso seicoleg ledled yr hyd oes datblygiadol, ynghyd â phrofiad o weithio mewn arbenigeddau craidd o ran iechyd meddwl oedolion, plant a'r glasoed, oedolion hŷn ac anableddau dysgu, ac yn amlygu gwybodaeth am wybyddiaeth, seicoleg ymddygiadol a modelau a dulliau eraill
  • Gwybodaeth am fodelau seicoleg, yn cynnwys gwybyddiaeth, seicoleg ymddygiadol a dulliau systemig
  • Gwybodaeth ddoethurol am ymchwil
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant a chymwysterau mewn methodoleg ymchwil, hyfforddiant staff a/neu feysydd eraill seicoleg gymhwysol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o asesu seicolegol arbenigol ac o drin cleientiaid ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, gan gynnwys cleifion allanol, y gymuned, gofal sylfaenol, a chleifion mewnol
  • Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol sy'n ymgorffori seicometreg ac asesu gwybyddol
  • Profiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid ar hyd llwybr bywyd, gyda'r bobl hyn yn amlygu problemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o addysgu, hyfforddi a goruchwylio
  • Profiad o gymhwyso seicoleg mewn cyddestunau diwylliannol gwahanol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Amanda Bayley
Teitl y swydd
Consultant Psychologist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437772819
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg