Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ysgrifenyddol
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC008-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Meddygfa Penrhyn
- Tref
- Solfach
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/01/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/02/2026
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd/Gweinyddwr Clinigol - Meddygfa Deulu
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael ar gyfer Ysgrifennydd Clinigol ym Meddygfa Penrhyn mewn lleoliad gwledig hyfryd yn Solfach. Bydd y rôl yn darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i gefnogi’r meddygon teulu a’r staff meddygol dynodedig a’u timau.
Byddwch yn rhan o dîm mawr ac amrywiol a bydd disgwyl i chi weithio oriau o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gadw ffeiliau yn electronig ac â llaw, ac yn gallu trin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol am gleifion.
Bydd gennych ystod o ddyletswyddau sydd wedi’u hamlygu yn y Swydd-ddisgrifiad, ond efallai y bydd y Tîm Rheoli yn gofyn i chi helpu i gymryd cofnodion, helpu’r tîm yn y dderbynfa ar adegau, neu gyflawni unrhyw dasgau gweinyddol eraill.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn golygu sgrinio, crynhoi nodiadau a rhoi codau Read iddynt. Trefnu a chynnal Clinigau/Cofrestrau Clefydau Cronig a gweithio’n agos gyda’r tîm nyrsio a’r Arweinydd Clinigol. Cefnogi’r rheolwyr a thîm y dderbynfa â pharhad busnes yng ngweithrediad y feddygfa o ddydd i ddydd. Rheoli a chefnogi cwblhau ac anfonebu’n gywir am waith nad yw’n rhan o’r GIG sy’n dod i’r feddygfa, gan sicrhau y cyflawnir hynny yn unol â rheoliadau GDPR.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys rhoi gwasanaeth Ysgrifennydd Meddygol a gwasanaeth gweinyddol cyffredinol i’r staff clinigol yn y Practis, a all gynnwys trawsgrifiad sain o wybodaeth glinigol. Ffeilio copïau caled ac electronig o wybodaeth am gleifion yn gywir ac mewn modd amserol. Rhoi codau Read i wybodaeth feddygol o ohebiaethau clinigol ac electronig i nodiadau'r claf; bydd sgiliau bysellfwrdd datblygedig a thrachywiredd yn ofynnol i wneud hyn. Crynhoi cofnodion cleifion newydd. Rheoli dogfennau clinigol gan sicrhau bod y cleifion ar y cofrestrau hyn yn cael eu monitro’n rheolaidd yn unol â’r protocolau clinigol. Rheoli gwaith nad yw’n rhan o’r GIG gan sicrhau y caiff ei gwblhau ac yr anfonebir amdano yn gywir ac yn unol â rheoliadau GPDR. Cynorthwyo â thasgau clinigol eraill yn ôl y gofyn, megis sganio, agor y post a’i ddosbarthu. Cysylltu mewn modd proffesiynol â chleifion, perthnasau, gofalwyr, cyd-weithwyr, meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Bod yn ddolen gyswllt i staff y dderbynfa pan fyddant yn ymdrin ag ymholiadau cymhleth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, a chynnig cymorth wrth ddelio â chleifion sydd wedi cynhyrfu/sy’n ddig. Rheoli amser mewn modd effeithiol i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â'r amserlenni a nodir.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/02/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- RSA/OCR Cam 3 neu gymhwysedd ar lefel gyfatebol mewn Prosesu Geiriau a Thrawsgrifio Sain
- 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol
- Gwybodaeth am raglenni meddalwedd e.e. pecynnau Microsoft, e-bost, y Rhyngrwyd a chronfeydd data
- Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ysgrifenyddol
- Prawf o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus priodol
- Gwybodaeth am godau Read ac am grynhoi cofnodion meddygol
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel II mewn Gweinyddu
- Yn gweithio tuag at gymhwyster terminoleg feddygol
- Yn gyfarwydd â systemau clinigol y Practis, e.e. Vision, WCEG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol a/neu weinyddol blaenorol
- Profiad yn y Gwasanaeth Iechyd neu mewn Practis Meddygon Teulu – yn gyfarwydd â defnyddio termau meddygo
- Profiad blaenorol o godau Read a chrynhoi
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jayne Williams
- Teitl y swydd
- Practice Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 721306
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





