Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfathrebu
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol: Dydd Llun i Dydd Gwener
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC259-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Swyddfa yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro, bydd yn cael ei drafod adeg penodi.
Tref
Pencadlys Caerfyrddin
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
30/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Cyfathrebu

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am weithiwr cyfathrebu proffesiynol sydd yn dymuno gwneud gwahaniaeth trwy ei waith a’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach

Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn cefnogi ein taith i symud o wasanaeth sy'n canolbwyntio ar drin salwch, i un sy'n canolbwyntio ar atal afiechyd neu atal afiechyd gwaeth, a darparu mwy o ofal yn nes at y cartref. 

Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn darparu ymgyrchoedd cyfathrebu rhagweithiol ac integredig. Bydd yn cyfrannu at faterion ymatebol, yn fewnol ac yn allanol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n teimlo'n angerddol ynghylch y modd y gall cyfathrebu da effeithio ar iechyd a llesiant. Bydd yn ffynnu mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym. 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud y canlynol: 

  • Cyflwyno cynnwys a mecanweithiau ar gyfer deialog rhwng staff ledled y sefydliad.
  • Trwy gyfathrebu, dylanwadu ar staff a'r cyhoedd i newid eu hymddygiad.
  • Darparu gwybodaeth glir i'r cyhoedd. 

Mae'r rôl yn gofyn am weithiwr proffesiynol ym maes cyfathrebu i gyfrannu at brosiectau ac ymgyrchoedd cyfathrebu arloesol, ysgrifennu cynnwys ar gyfer fformatau gwahanol, ymateb i ymholiadau gan staff, newyddiadurwyr a defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol, a gwneud y defnydd gorau o gyfryngau traddodiadol a newydd. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 30/09/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg i lefel gradd mewn maes perthnasol neu lefel gyfwerth o brofiad gwaith, gan gynnwys gwybodaeth ymarferol a phrofiad o ran dulliau ac ymagweddau mewn perthynas â chysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu a'r cyfryngau
  • Gwybodaeth am gyfathrebu, ymarfer newyddiadurol, cysylltiadau cyhoeddus ac ymgyrchu, gan gynnwys yr amrywiol offer a thechnegau cyfathrebu a chyfryngau newydd
  • Gwybodaeth am arferion iechyd ac arferion y sector cyhoeddus, yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o rwydweithiau a seilwaith gwleidyddol lleol a chenedlaethol
  • DPP amlwg
Meini prawf dymunol
  • Aelod ardystiedig o'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus.
  • Tystiolaeth o addysg uwch neu addysg bellach a'r cymwysterau proffesiynol/rheoli priodol, h.y. Cymwysterau CIPR, NEC, CAM a Chyfraith y Cyfryngau
  • Cymhwyster neu wybodaeth amlwg am y deddfwriaethau sy'n llywodraethu'r cyfryngau a deddfau athrod/enllib ar gyfer cyhoeddwyr
  • Dealltwriaeth o God Ymddygiad y Golygyddion a Chod Ymddygiad Proffesiynol y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, a pharodrwydd i weithredu'n unol â nhw
  • Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Cymru a phwerau dirprwyedig LlC
  • Gwybodaeth am gyfathrebu i alluogi newid ymddygiad
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau rheoli ymholiadau a chynnwys y cyfryngau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn tîm cyfathrebu.
  • Tystiolaeth o gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu ar draws sianeli mewnol, allanol a digidol, ynghyd â hanes o gyflawni.
  • Profiad o ddylunio graffeg sylfaenol i helpu i gyfleu negeseuon.
  • Profiad sylfaenol o recordio a golygu fideos.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda staff a newyddiadurwyr mewn rôl ymatebol ar gyfer y GIG neu sefydliad sector cyhoeddus mawr arall
  • Sgiliau lefel uwch a phrofiad o ran ffilmio, dylunio graffeg neu farchnata

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg Lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Llinos McVicar
Teitl y swydd
Senior Communications Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Vince Jones: [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg