Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deietegydd
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP089-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w bennu adeg penodi
- Tref
- TBC
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 26/09/2025
Teitl cyflogwr

Dietegydd Diabetes Profiadol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn ddeietegydd brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n ystyried arbenigo ym maes Diabetes?Rydym yn wasanaeth deieteg cyfeillgar a chefnogol, a'n nod yw canolbwyntio ar feithrin eich sgiliau a'ch hyder fel ymarferydd annibynnol sy'n cynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ymuno â thîm deieteg dynamig sefydledig Hywel Dda, sydd â phroffil uchel yn y tîm therapïau ehangach ac ar draws y Bwrdd Iechyd. Rydym yn cefnogi wyliaeth yn llawn, ac yn galluogi hyn yn weithredol trwy gynnal sesiynau gwarchodedig mewn cynlluniau swyddi unigol.
Byddwch yn cael y cyfle i fod yn rhan werthfawr o'r gwasanaeth diabetes ledled y Bwrdd Iechyd.
Mae hon yn rôl allweddol i ddeietegydd Diabetes gynyddu ei sgiliau ym maes gofal diabetes Math 1 a Math 2, a hynny ar draws ardal Hywel Dda; fodd bynnag, gall y lleoliad gwaith rheolaidd fod yn hyblyg.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i rywun sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwella canlyniadau iechyd ledled Hywel Dda ac sy'n meddu ar ymrwymiad i ddatblygu a dysgu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn diabetes, ynghyd â phrofiad yn y maes eisoes, neu os ydych yn awyddus i ddefnyddio eich sgiliau clinigol presennol yn y maes hwn, yna gallai'r rôl hon fod yr un i chi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu Deieteg Diabetes; rheoli llwyth achosion amrywiol a chymhleth, darparu addysg strwythuredig, bod yn aelod annatod o’r tîm deieteg diabetes, gweithio’n effeithiol yn rhan o dimau amlddisgyblaethol ehangach.
Gweithio fel aelod annatod o dimau diabetes amlddisgyblaethol, gan lywio gofal cleifion, a chefnogi gofal maethol a gwasanaeth rheoli diabetes rhagorol trwy ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Cymryd rhan mewn gwaith gwella ansawdd, archwilio clinigol a datblygu, sy'n gysylltiedig â Diabetes/Maetheg a Deieteg. Bod yn eiriolwr dros Ddiabetes/Maetheg a Deieteg.
Datblygu a chyflwyno hyfforddiant ac addysg arbenigol seiliedig ar wybodaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 26/09/2025.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio o fewn y GIG neu mewn lleoliad gofal iechyd cyfatebol
- Profiad o weithio ym maes deieteg diabetes
- Profiad o ddarparu addysg strwythuredig i grwpiau
- Profiad eang a chyfunol o reoli llwyth achosion clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
- Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy'n seiliedig ar wybodaeth glinigol
- Cymryd rhan mewn prosiectau/gwella ansawdd/gwaith datblygu, ac iddynt ganlyniadau amlwg
- Profiad o gyfrannu at raglenni hyfforddi myfyrwyr
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigo
- Aelod o rwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio ar y safle a theithio i ddarparu cymorth arbenigol/gwasanaeth cyflenwi ar draws safleoedd lle bo hynny'n briodol
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
- Gwybodaeth glinigol, dealltwriaeth a diddordeb mewn perthynas â diabetes, gofal maethol i oedolion, a deieteg
- Tystiolaeth o hyfforddiant arbenigol hyd at lefel diploma ôlraddedig neu brofiad clinigol cyfatebol ym maes diabetes
- Wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu gwrs cyfatebol
- Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth, a'r gallu i'w defnyddio i lywio gofal deietig
- Gwybodaeth ymarferol am ganllawiau a pholisïau proffesiynol a chlinigol sy'n berthnasol i ddeieteg diabetes
- Gwybodaeth am roi methodoleg gwella ansawdd ar waith
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster penodol cysylltiedig â Diabetes neu hyfforddiant XPERT/DAFNE
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Jones
- Teitl y swydd
- Service Lead Diabetes Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Laura Jones
Uwch-ddeietegydd arweiniol ym maes Diabetes
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector