Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Babi newydd-anedig
Gradd
Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YGC-NEO-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£114,099 - £166,585 pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/12/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/01/2027

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Neonatolegydd Ymgynghorol

Ymgynghorydd

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Neonatolegydd Ymgynghorol

Mae cyfle wedi codi i Neonatolegydd Ymgynghorol llawn amser parhaol neu Bediatregydd sydd â diddordeb arbennig mewn Neonatoleg ymuno â'r tîm presennol o saith Neonatolegwyr Ymgynghorol parhaol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Yr Uned Babanod Newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd yw'r Ganolfan Is-Ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC).

Fel rhan o'r broses recriwtio, caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rôl eu gwahodd i gymryd rhan mewn Cyfweliad Rhanddeiliaid a Chyfweliad gyda'r Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau (AAC). Trefnwyd i'r AAC gael ei gynnal ar 07 Ionawr 2027. Caiff dyddiad y Cyfweliad Rhanddeiliaid ei gadarnhau unwaith y bydd y rhestr fer wedi cael ei chwblhau. Disgwylir i'r cyfweliad gael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 04 Ionawr 2027

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o'r tîm i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, diogel a chyfannol mor agos â phosibl at gartrefi'r teuluoedd. Bydd hyn yn dibynnu ar reoli capasiti'r rhwydwaith yn dda, ac ar ddatblygu gwasanaethau mewn ysbytai cyfagos fel bod modd  dychwelyd babanod nad oes angen gofal dwys arnynt mwyach yn gynnar. Bydd angen i ddeilydd newydd y swydd feithrin cydberthnasau gwaith â chydweithwyr yn Wrecsam a Bangor a darparu unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnynt. Mae cysylltiadau â meddygon ymgynghorol o Ogledd-orllewin Lloegr hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau mynediad at wasanaethau trydyddol nad ydynt ar gael yng Ngogledd Cymru, er enghraifft llawdriniaeth gardiaidd a newyddenedigol yn Ysbyty Plant Alder Hey.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddo gyllideb gwerth mwy nag £2.4 biliwn ac mae'n cyflogi mwy na 20,000 aelod o staff yn ei weithlu

Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau ysbytai acíwt ac arbenigol mewn 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd yn y gymuned ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu neu’n darparu gwaith practisau meddygon teulu a gwasanaethau’r GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws y rhanbarth.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy'n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol rhagorol gan gydweithio â'r sector cyhoeddus a sefydliadau statudol eraill, a sefydliadau yn y trydydd sector.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.

 Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ddyfodol gofal iechyd yng Ngogledd Cymru a'ch bod yn meddu ar y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, rydym yn eich gwahodd i wneud cais.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Arbenigol llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn un o'r canlynol: Pediatreg gyda modiwl SPIN Neonatoleg neu Neonatoleg neu o fewn 6 mis i gwblhau TCC ar ddyddiad y cyfweliad. Rhaid i ymgeiswyr Llwybr Portffolio (CESR yn flaenorol) feddu ar Gofrestriad Arbenigol â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, MRCPCH neu Gymhwyster Cyfatebol ar adeg cyflwyno'r cais
  • MRCPCH neu gyfwerth
  • Rhaid i ymgeiswyr Llwybr Portffolio (CESR yn flaenorol) feddu ar Gofrestriad Arbenigol â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, MRCPCH neu Gymhwyster Cyfatebol ar adeg cyflwyno'r cais
Meini prawf dymunol
  • TCC (gan gynnwys hyfforddiant newyddenedigol Grid NTN lle y bo'n berthnasol)
  • MSc, MD, PhD neu radd uwch gyfatebol
  • Cynnal Bywyd Pediatreg Uwch (cwrs darparwr)
  • Hyfforddwr NLS

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
  • Gweithio fel rhan o'r tîm rheoli
  • Profiad o gysylltu ag asiantaethau eraill e.e. asiantaethau amddiffyn plant
  • Profiad o addysgu israddedig ac ôl-raddedig
  • Tystiolaeth o gychwyn archwiliadau, eu datblygu a'u cwblhau
  • Profiad o weithio mewn unedau babanod newydd-anedig rhanbarthol ac is-ranbarthol a thystiolaeth o ddiddordeb is-arbenigol ym maes neonatoleg, yn gymesur â sgiliau meddyg ymgynghorol
  • Hyfforddiant Diogelu Lefel 3 Dilys
  • Cwrs darparwr NLS
  • Cwrs darparwr APLS
  • Hyfforddiant BLS Dilys
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gludo babanod newydd-anedig
  • Profiad o waith ymchwil

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Arwain
  • Gweithio mewn tîm
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig gwych
  • Sgiliau rhyngbersonol gwych – y gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ac empathetig â chleifion, gofalwyr a pherthnasau
  • Dealltwriaeth o systemau gwybodaeth a thechnoleg
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i gynnal ecocardiogramau newyddenedigol
  • Is-arbenigedd arall i ategu'r rhai yn yr adran, e.e. niwroleg/gastroenteroleg newyddenedigol, uwchsain, profiad amenedigol

Addysg a Hyfforddiant

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Addysgu
  • Goruchwyliwr Addysg/Clinigol

Gofynion Ychwanegol

Meini prawf hanfodol
  • Sicrhau bod ei werthoedd yn cyd-fynd â rhai’r Bwrdd Iechyd
  • Hyblyg ac addasadwy o ran gofynion croes
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn ffordd amserol
  • Y gallu i weithio ar alwad
  • Ymrwymiad i arferion modern
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i chwarae rôl arweiniol mewn datblygu clinigol
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu'r parodrwydd i ddysgu Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Ambrose Onibere
Teitl y swydd
Clinical Lead – Neonatal Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
Rhif ffôn
03000 855063
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg