Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Administration
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Fixed term until 31 March 2027)
Oriau
Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos (Part time including Mondays)
Cyfeirnod y swydd
070-AC037-0326-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bronllys
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£26,300 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Online CBT Administrator

Gradd 3

Trosolwg o'r swydd

MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL AM 12 MIS OHERWYDD CYLLID.

Y prif ddiben ydy darparu cefnogaeth glercaidd, weinyddol ac ysgrifenyddol gynhwysfawr i’r Tîm CBT Ar-lein yn ogystal â bod yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd, paratoi agendâu a phapurau, yn ôl y galw, a chymryd nodiadau a chofnodion ffurfiol a sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu’n cael eu cymryd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnig cefnogaeth anghlinigol i
ddefnyddwyr y gwasanaeth CBT Ar-lein, gan gofrestru defnyddwyr
gwasanaeth ar y rhaglen, monitro cynnydd a rhyddhau defnyddwyr pan y
maen nhw wedi cwblhau neu wedi ymddieithrio rhag y rhaglen.
Darperir y gefnogaeth trwy’r platfform ar-lein yn ogystal â chyswllt dros y ffôn.

Un rhan bwysig o’r rôl hon ydy sicrhau bod gwybodaeth cleifion yn cael ei
thrin yn gyfrinachol a’i bod yn cael ei mewnbynnu’n gywir i’r Rhaglen CBT Ar-lein

Prif ddyletswyddau'r swydd

Hybu a gweinyddu’r gwasanaeth CBT Ar-lein ledled Powys, gan gynnwys cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr gwasanaeth ar y rhaglen, darparu manylion i roi’r cofrestriad ar waith, cyfathrebu â nhw, eu monitro a chynnig cefnogaeth dechnegol trwy gydol y rhaglen.

Darparu adroddiadau ar gynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a meddygon teulu sy’n atgyfeirio cleifion, trwy ddosbarthu llythyrau a ffurflenni adborth.

Cofnodi unrhyw broblemau â’r rhaglen CBT Ar-lein ac uwchgyfeirio’r rhain i’r darparwr meddalwedd ac olrhain gwaith adfer/cywiro’r problemau hyn.

Cydlynu a hwyluso mynediad i’r gwasanaeth CBT Ar-lein ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth h.y. bwcio apwyntiadau mewn safleoedd cymunedol fel llyfrgelloedd, canolfannau gwaith ac ati, i ddefnyddwyr gwasanaeth allu defnyddio cyfrifiaduron/ argraffyddion er mwyn dilyn y rhaglen ar-lein.

Cefnogi a chynghori’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n atgyfeirio cleifion, gan ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw neu sydd gan eu cleifion o ran y gwasanaeth CBT Ar-lein a sicrhau bod stoc o becynnau atgyfeirio’n cael ei anfon atyn nhw’n rheolaidd i sicrhau bod ganddyn nhw swm digonol bob amser.

Rheoli stoc, gan sicrhau bod yr holl hwyluswyr ar safle ac unrhyw rai eraill sy’n atgyfeirio’n cael cyflenwadau o’r nwyddau traul sy’n ofynnol i redeg y gwasanaeth CBT Ar-lein e.e. ffurflenni atgyfeirio, taflenni gwybodaeth ac ati. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://pthb.nhs.wales/working-for-us/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • NVQ3 in related subject or equivalent
  • GCSE English and Mathematics (grade C or above or equivalent qualification)
  • Typing/Word Processing qualification e.g. RSA level 3 or equivalent
  • Experience of using Microsoft packages
  • Excellent verbal and written communication skills to build effective working relationships with colleagues at all levels
  • Evidence of strong administrative and planning skills, ability to plan effectively against multiple concurrent activities and against deadlines
  • Minute taking skills
  • ability to travel across Powys
  • Ability to deal with confidential issues in a professional manner
  • Ability to demonstrate assertiveness e.g. planning for a new system change
Meini prawf dymunol
  • Experience of supporting programmes /projects ideally within the NHS or a public sector organisation
  • Ability to speak Welsh

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Experience of relevant practical administrative work, including arranging meetings, handling telephone enquiries and maintaining office systems both electronic and manual

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Fionnuala Clayton
Teitl y swydd
Business Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07776 514699
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg