Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Endosgopi
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dau ddiwrnod yr wythnos, yn gweithio sifft 8 awr gyda 30 munud o egwyl cinio di-dâl)
Cyfeirnod y swydd
070-AC011-0126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/01/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Swyddog Cymorth Gweinyddol Endosgopi

Band 6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gwasanaeth prysur hwn yn chwilio am berson brwdfrydig, llawn cymhelliant a all gynnig cefnogaeth weinyddol ardderchog i gynorthwyo’r gwaith rhedeg y swyddfa trefnu apwyntiadau endosgopi yn esmwyth.

 Bydd swyddog cymorth gweinyddwr endosgopi yn gyfrifol am ddyletswyddau gweinyddol yn y swyddfa trefnu apwyntiadau endosgopi a bydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr clinigol mewn amgylchedd deinamig a chyflym. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau'r lefel orau o gymorth clerigol effeithlon i gynorthwyo rheoli rhestrau aros.

Mae'r rôl hon yn rhan amser a'r lleoliad yw Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Nod y swydd yw darparu a chynnal gwasanaeth gweinyddol o fewn endosgopi ac i'w holl ddefnyddwyr; cleifion, perthnasau a chydweithwyr. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl atgyfeiriadau wedi'u trefnu ar ein system gweinyddu cleifion a bod gweithdrefnau endosgopig diagnostig yn cael eu harchebu/trefnu drwy sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd (gan gynnwys y llwybr canser), delio ag ymholiadau ffôn, anfon llythyrau apwyntiad gyda thaflenni cyn y weithdrefn endosgopi, sesiynau endosgopi dilynol a pharatoi nodiadau dangos ar gyfer yr endosgopyddion h.y. canlyniadau neu ymholiadau cleifion. Bydd angen i chi hefyd wneud teipio sain. 

 Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 3 neu gymhwyster cyfwerth neu brofiad perthnasol
  • Profiad o ddefnyddio systemau rheoli gwybodaeth cyfrifiadurol
  • Profiad a’r gallu i baratoi adroddiadau manwl
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office Profiad
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd lle y bu’n rhaid defnyddio tact a doethineb
  • Gwybodaeth am strwythur a ffordd y Bwrdd Iechyd oweithredu

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn gryno, ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfathrebu a meithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr ar bob lefel yn fewnol ac yn allanol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Bysellfwrdd Uwch cyfwerth ag RSA 2/3
  • Cyfathrebwr rhagorol ar bob lefel ofewn i sefydliad, a’r tu allaniddo, gan gynnwys y gallu igyfathrebu’n effeithiol â chleifionac aelodau’r cyhoedd Gallu teithio ar draws safleoedd Meddyliwr clir sy’n gallu pennu cwmpas tasg benodol a’i pherfformio’n gyflym ac yn fanwl gywir Gallu delio â phwysau Gallu bod yn chwaraewr tîm da Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant pellach a datblygi
Meini prawf dymunol
  • Gallu ysgrifennu / siarad Cymraeg

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio oriau hyblyg

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
  • Y gallu i nodi, blaenoriaethu a gweithio o fewn terfynau amser byr
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth i gyflawni amcanion y swydd
  • Y gallu i gynllunio a gosod adroddiadau, ffurflenni a dogfennau eraill i fformat priodol o ansawdd uchel
  • Y gallu i gymryd cofnodion cywir
  • Y gallu i goladu a chynnal dadansoddiad sylfaenol o ddata
  • Y gallu i baratoi gwybodaeth ar gyfer cyfarfodydd a seminarau
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gryno, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o’r Ddeddf Diogelu Data, yn arbennig mewn cysylltiad â chyfrinachedd
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kerry Wilding
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 61 5708
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg