Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Finance
- Gradd
- 7
- Contract
- Parhaol: Full-time
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC041-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bronllys Hospital
- Tref
- Brecon
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Management Accountant
7
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon yn cefnogi’r Partner Busnes Cyllid i ddarparu gwasanaethau Rheolaeth Ariannol cadarn i ddiwallu gofynion o ran adrodd a rheolaeth ariannol yn BIAP ac ar lefel ardaloedd.
Cyfrannu at baratoi gwaith gosod cyllideb flynyddol y Bwrdd Iechyd ac
adroddiadau cyllid misol, a chyfrannu at gynhyrchu’r ystadegau monitro
ariannol misol ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Nid yw gwaith yn cael ei oruchwylio ar lefel uwch ac mae angen ichi weithio ar eich liwt eich hun i wneud penderfyniadau, gan gyfeirio at eich rheolwr llinell o bryd i’w gilydd yn unig.
Cymryd y rôl arweiniol mewn cynnal a datblygu systemau rheolaeth ariannol cadarn, gyda gwybodaeth arbenigol o bob agwedd ar reolaeth ariannol yn unol â chyfundrefn y GIG.
Darparu cyngor strategol ar gyllid ac achosion busnes a bydd disgwyl
dadansoddi a dehongli gwybodaeth rheolaeth ariannol hynod gymhleth i
ddarparu cyfeiriad polisi ar gyfer y Bwrdd Iechyd o fewn eich meysydd
arbenigedd.
Datblygu cynlluniau a chyfathrebu gwybodaeth ariannol gymhleth yn
ddarbwyllol.
Fel uwch aelod o’r tîm Cyllid, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arwain y gwaith o ddarparu cefnogaeth rheolaeth ariannol i faes gwasanaeth sylweddol.
Rheoli staff yn yr is-adran Cyfrifon Rheolaeth.
O fewn meysydd atebolrwydd cytunedig, bod yn gyfrifol am adrodd ariannol a chynghori eraill, o ran cyllidebau refeniw a goblygiadau ariannol datblygiadau afaethedig.
Bod yn gyfrifydd cyswllt ar gyfer un maes gwasanaeth neu fwy o fewn y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli’r tîm Cyfrifeg Rheoli ar gyfer maes gwasanaeth penodol i gefnogi elfennau ariannol cynlluniau’r Bwrdd Iechyd. Sicrhau bod y staff, systemau a gweithdrefnau yn darparu strwythur cymorth effeithiol ac effeithlon sy'n gweithredu gyda gonestrwydd, uniondeb a phroffesiynoldeb.
Mae meysydd penodol yn cynnwys rheolaeth y Gyllideb, Rheolaeth Ariannol, Cynllunio Ariannol, Adrodd, Rheoli Staff.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- CCAB fully qualified participating in CPD or equivalent work-based experience
Experience
Meini prawf hanfodol
- Ability to convey complex analytical financial information to all stakeholders
- Ability to provide financial advice and training on the budget plan and budgetary control techniques to non-finance staff.
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to challenge or negotiate with external bodies on matters which could influence the funding position of the Health Board
- Excellent IT skills including data analysis
- Ability to motivate others and use influencing skills.
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Peter Richards
- Teitl y swydd
- Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07501084199
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector