Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ophthalmology
Gradd
NHS Medical & Dental: Consultant ZM81
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Arall
1 sesiwn yr wythnos (1)
Cyfeirnod y swydd
070-MD013-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Breconshire War Memorial Hospital
Tref
Brecon
Cyflog
£114,099 - £166,585 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Ymgynghorydd Arweiniol Arbenigol - Offthalmoleg

NHS Medical & Dental: Consultant ZM81

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn gyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau rhyngbersonol da a gwybodaeth eang am wasanaethau offthalmoleg a bydd yn gweithio mewn cydweithrediad ag uwch arweinwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau clinigol ym Mhowys.

Bydd deiliad y swydd yn dangos llwyddiant mewn rôl reoli a rôl glinigol ac wedi hen sefydlu hygrededd gyda nifer o randdeiliaid. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ysgogi ac ymgysylltu ag eraill i sicrhau bod y gwasanaethau y mae BIAP yn eu darparu a'u comisiynu yn cefnogi gwerthoedd Bwrdd Iechyd Powys, yn ogystal â chael dull arloesol nad yw'n ofni herio confensiwn a ffyrdd traddodiadol o weithio.

Bydd arweinydd arbenigedd offthalmoleg yn darparu arweinyddiaeth feddygol i'r gwasanaeth offthalmoleg/offthalmig i oruchwylio llywodraethu a sicrhau effeithiolrwydd clinigol a chynhyrchiant. 

Bydd deiliad y swydd hon yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau offthalmig/offthalmoleg o ansawdd uchel ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd gofyn iddynt hefyd ddarparu arweinyddiaeth feddygol mewn archwilio, ymchwil a rheoli'r gwasanaeth offthalmoleg.  Bydd gofyn i ddeiliad y swydd feithrin perthnasoedd gwaith agos â chydweithwyr eraill fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol ar draws BIAP a gwasanaethau a gomisiynwyd.

Gellir dyrannu cyfrifoldeb i ddeiliad y swydd am oruchwyliaeth glinigol yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o wasanaethau ymgynghorol offthalmoleg mewnol a staff clinigol eraill. Bydd hyn yn cyfateb i un sesiwn yr wythnos.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cadeirio unrhyw grwpiau clinigol offthalmoleg a sefydlir o fewn y bwrdd iechyd a darparu cynrychiolaeth arweinyddiaeth arbenigol i Grŵp Cydweithredol Gofal Llygaid Powys. 
  • Goruchwylio gwelliant parhaus y gwasanaeth offthalmoleg wedi'i fesur gan safonau'r Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio Genedlaethol a grwpiau lefel arbenigedd cysylltiedig e.e. Rhwydwaith Gweithredu Clinigol ar gyfer Offthalmoleg. Sicrhau bod y gwasanaeth yn barod i ennill a chynnal unrhyw achrediadau gwasanaeth perthnasol
  • Goruchwylio datblygiad polisïau a phrotocolau clinigol o fewn y gwasanaeth offthalmoleg
  • Goruchwylio rhaglen archwilio dreigl ar gyfer y gwasanaeth offthalmoleg gydag amserlenni a chyfranwyr cyfrifol
  • Sicrhau dangosyddion perfformiad allweddol diogelwch ac ansawdd ar gyfer offthalmoleg gan eu hadolygu a gweithredu arnynt
  • Darparu cefnogaeth ac arbenigedd wrth reoli tanberfformiad Offthalmoleg lle nodir hynny
  • Goruchwylio adolygiad llywodraethu o ddigwyddiadau offthalmoleg a adroddwyd a dadansoddi tueddiadau
  • Darparu cefnogaeth arbenigol i'r tîm gweithredol o ran cwynion ac ymchwiliadau i ddigwyddiadau o fewn y gwasanaeth offthalmoleg yn ôl yr angen
  • Goruchwylio'r asesiad cymhwysedd a'r ddarpariaeth briodol o hyfforddiant mewn offthalmoleg. 
  • Arwain datblygiad strategaeth glinigol ar gyfer offthalmoleg sy'n cefnogi ffrydiau gwaith trawsnewid iechyd gydag arweinyddiaeth arbenigol

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Full Registration with the General Medical Council
  • FRCS or equivalent
  • Entry on the GMC specialist register via CCT (proposed CCT date must be within 6 months of interview), relevant CESR or European Community Rights
Meini prawf dymunol
  • Higher degree (MD, PhD, etc)

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Ability to practice independently in ophthalmology and offer expert clinical opinion in ophthalmology
  • Experience of leadership of service developments and transformation
  • Excellent clinical skills
  • Ability to take full and independent responsibility for clinical care of patients
Meini prawf dymunol
  • Experience of medical workforce management
  • Experience of digital transformation

Teaching

Meini prawf hanfodol
  • Experience of and commitment to teaching undergraduate and postgraduate medical staff.

Research, Audit and Clinical Governance

Meini prawf hanfodol
  • Experience of and commitment to medical audit.
  • Experience of research and Clinical Governance
Meini prawf dymunol
  • Ability to supervise postgraduate research and audit
  • Publications in peer reviewed journals

Continued Professional / Personal Development

Meini prawf hanfodol
  • Demonstrable evidence of lifelong learning.
  • Reflective approach to personal development with an ability to acknowledge and effectively manage poor performance.
  • Participation in appropriate peer review processes.
Meini prawf dymunol
  • Continued Professional / Personal Development

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to take responsibility, lead, make decisions and respond appropriately to service need.
  • Ability to organise and manage own workload efficiently
  • Excellent communication skills with patients, colleagues, managers and other staff.
  • Empathetic and sensitive approach to patient needs.
  • Approachable and effective Multi-disciplinary team member with excellent interpersonal skills.
  • Positive approach to lessons learnt.
  • Confident approach
Meini prawf dymunol
  • Experience of audit management
  • Undertaken management training course
  • Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.
  • IT Skills
  • Presentation skills

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Stephen Edwards
Teitl y swydd
Planned Care Assistant Medical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg