Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicoleg
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS082-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Byw'n Dda Powys
- Tref
- Aberhonddu , Ty Cloc, Ysbytu Bronllys, Bronllys, Aberhonddu
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Seicolegydd Cynorthwyol
Gradd 5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Hoffech chi ymuno â thîm rhyngddisgyblaethol sy'n ymfalchïo mewn bod yn arloesol, effeithiol a chyfeillgar?
Hoffech chi weithio mewn amgylchedd hardd lle mae eich datblygiad personol a phroffesiynol yn cael ei annog?
Hoffech chi ymuno â thîm sy'n arbenigo mewn dull bioseicogymdeithasol o reoli cyflyrau iechyd hirdymor?
Os felly, byddem yn croesawu eich cais ar gyfer rôl Seicolegydd Cynorthwyol: Gwasanaeth Byw'n Dda Powys.
Fel tîm rydym yn credu mewn defnyddio adnoddau i helpu pobl i fyw'r bywydau y maent eu heisiau. Mae adnoddau digidol yn gwella mynediad at ein gwasanaethau ac yn lleihau'r angen i deithio. Fel gwasanaeth rydym yn defnyddio'r amgylchedd i wneud y gorau o'r cyfleoedd i wella iechyd a lles. Gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael, rydym yn dylunio ac yn gwella gwasanaethau ar y cyd â’r bobl a fydd yn eu defnyddio.
Byddwch yn dod â:
- Gwybodaeth a phrofiad sylweddol o gymhwyso modelau sy'n ymwneud â chyflyrau iechyd hirdymor, gan ddefnyddio ystod eang o dechnegau seicolegol
- Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol
- Y gallu i ddarparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol eraill
- Brwdfrydedd dros ymchwil a datblygu
- Sgiliau digidol rhagorol gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r ystod lawn o offer Microsoft 365
Yn ogystal â darparu gwasanaeth seicolegol i Wasanaeth Byw'n Dda Powys, bydd disgwyl i chi ddatblygu eich sgiliau gan weithio ar draws yr ystod o gyd-forbidrwydd posibl.
Darperir cefnogaeth ar gyfer hyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi a chyfoethogi’r gofal seicolegol proffesiynol ar gyfer cleientiaid sydd angen Cyngor, Cefnogaeth a Rhagsefydlu fel rhan o Gwasanaeth Byw'n Dda Powys y Bwrdd Iechyd, ar draws pob sector gofal, gan ddarparu asesiad seicolegol ac ymyriadau seicolegol, a gweithio’n annibynnol yn unol â chynllun y cytunir arno â Seicolegydd cymwysedig ac o fewn fframwaith cyffredinol polisïau a gweithdrefnau’r Gwasanaeth Byw'n Dda Powys .
Cynorthwyo â gwaith gweinyddol sy’n glinigol gysylltiedig, cynnal archwiliadau, casglu ystadegau, a datblygu prosiectau archwilio a/neu ymchwilio, addysgu a gwaith prosiect.
Gan gynorthwyo Seicolegydd Clinigol cymwysedig, bydd y Seicolegydd Cynorthwyol yn gyfrifol am agweddau seicolegol ar y gofal amlddisgyblaeth/ amlasiantaeth a ddarperir i oedolion.
Cysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau gwirfoddol a statudol ac yn darparu gwasanaeth cynghori iddyn nhw.
Caiff amser y Seicolegydd Cynorthwyol ei rannu rhwng tasgau clinigol/ gweinyddol a thasgau ymchwil / archwilio yn ôl y gofyn.
Bod yn gyfrifol am lwyth achosion cytunedig. Bydd Seicolegydd Clinigol
Cymwysedig yn rheoli ac yn asesu’r gwaith hwn bob wythnos.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- An Honours Degree in Psychology graded at upper second class or above
- Entitlement to graduate membership of the British Psychological Society
Meini prawf dymunol
- Master’s degree in relevant subject
Experience
Meini prawf hanfodol
- Evidence of some formal teaching
- Clinical supervision of practice
- A thorough understanding of the needs and difficulties of people with mental health problems and other disabilities
- Accurate use of complex psychological assessment tools
- An ability to apply existing theoretical psychological knowledge to a mental and physical health context
- An understanding of psychology theory applied to health care
- Experience working with people with a relevant client group in a healthcare setting
Meini prawf dymunol
- Experience using computers for databases, dataanalysis and MS Teams
- Experience of further paid work in direct care provision ideally as an Assistant Psychologist or Psychological Wellbeing Practitioner
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- High standard of report writing
- Excellent organisational skills and an understanding of working with multiple priorities
- IT skills to a level required to work regularly with Microsoft Office packages and local specialist packages as requires
- High level communication skills (written and verbal) including an ability to communicate and work in settings in which the atmosphere may be highly emotive
- Ability to communicate highly complex and sensitive information to patients, carers and colleagues in a way that addresses psychological resistance
- Excellent communications skills, both verbally and written, including the ability to engage with clients experiencing a wide range of mental health problems
- Ability to communicate diplomatically, confidently, empathetically
- Flexible approach to working, balancing academic and clinical demands
- Ability to work autonomously and as part of a team
Values
Meini prawf hanfodol
- Good communication skills both written and oral; compassion, competence, communication, courage and commitment
- Ability to work reliably and consistently under supervision
- Good interpersonal skills, sensitivity, tolerance, selfmotivation and enthusiasm
Meini prawf dymunol
- An interest in working with people who have a long-term condition
- Ability to work in multi-disciplinary teams
Other
Meini prawf hanfodol
- Aim of pursuing Applied Psychology as a career
- Ability to accept and use supervision effectively
- Ability to travel between Health Board sites and place of study in a timely fashion
Meini prawf dymunol
- Good time management
- Ability to prioritise workload
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Owen Hughes
- Teitl y swydd
- Head of Powys Living Well Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 442 910
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







