Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardiology
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol: /
- Oriau
- Rhan-amser - 7.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-HS001-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Bronllys - I'w gadarnhau
- Tref
- Bronllys
- Cyflog
- £58,379 - £65,723 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Service Lead Cardiology
Gradd 8a
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Trwy ei arbenigedd clinigol a'i wybodaeth am ymarfer uwch, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r dyletswyddau clinigol ac anghlinigol sy'n gysylltiedig â chomisiynu a darparu gwasanaeth cardioleg diogel, o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar werth ac yn canolbwyntio ar y claf ar draws y llwybr cyfan ar gyfer cleifion Powys.
Bydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth glinigol a rheolaeth weithredol ar gyfer gwasanaethau cardioleg Powys a bydd yn cefnogi trawsnewid gwasanaethau cardioleg ym Mhowys drwy weithio gydag uwch glinigwyr ac uwch swyddogion, gan gynnwys y rhai mewn Ysbytai Cyffredinol Dosbarth cyfagos, wrth gynllunio, darparu, gwella a datblygu ystod o wasanaethau cardioleg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig ac arloesol sy'n cefnogi gweithredu a datblygu gofal integredig o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar werth, sy'n canolbwyntio ar y claf ar draws y llwybr cardioleg cyfan sy'n parchu ac yn ymateb i anghenion unigolion a'u gofalwyr.
Cefnogi cydweithwyr i ddarparu rheolaeth strategol gyffredinol, cynllunio busnes a datblygu gwasanaethau cardioleg ar gyfer cleifion Powys, gan gynnwys cefnogi comisiynu gwasanaethau a ddarperir y tu allan i'r sir.
Cyfrannu at ddatblygu a deall cyfeiriad strategol y gwasanaeth, yr adran a'r Bwrdd Iechyd.
Gwerthuso effeithiolrwydd a chanlyniadau clinigol yn rheolaidd trwy archwilio ac adolygu gwasanaethau a datblygu gweithlu medrus iawn ym mhob maes gwasanaeth.
Gweithredu datblygiadau gwasanaeth newydd i wella darpariaeth gwasanaethau, canlyniadau clinigol a phrofiad cleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Registered professional
- Master’s level qualification or equivalent demonstrable experience of working at this level
- Highly specialist knowledge underpinned by theory and practice
- Robust knowledge and experience of local protocols and national policy
- Non-medical prescriber
- Evidence of continuing professional development
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant operational management experience, including experience of managing and developing multi-disciplinary or integrated pathway teams
- Experience of managerial and leadership practices and procedures within the specialty
- Experience of audit and research
- Experience of policy and procedural development
- Positive methods to managing service change and attitudes
- Proficient in multi-agency partnership working
- Proficient in dealing with highly complex and emotive issues
Aptitude
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate leadership skills, credibility and integrity and ability to manage through change
- Excellent problem solving and decision-making skills
- Excellent report writing and presentation skills adopting local process
- Professional approach to supervision and mentorship of team
- Communicate effectively with multi agency colleagues at all levels including negotiation and conflict skills
Meini prawf dymunol
- Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.
Values
Meini prawf hanfodol
- Excellent interpersonal skills
- Professional outlook to work, with a positive view of change
- Demonstrate comprehensive personal management skills, including prioritisation
- Ability to engage positively with patients and colleagues
- Flexible in terms of working arrangements and travel to meet the needs of the Service
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Jones
- Teitl y swydd
- Community Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754451738
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







