Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
gymuned
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Gwasanaeth 8am-8pm)
Cyfeirnod y swydd
070-NMR082-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Llanidloes
Tref
Llanidloes
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
25/06/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsys

Gradd 6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsys Ardal yn gyfrifol am arweinyddiaeth glinigol a rheolaeth dros achosion mewn ardal ddynodedig. Bydd hyn yn cynnwys asesiadau holistig o anghenion gofal cleifion ynghyd â datblygu, gweithredu a gwerthuso gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Mae'r oriau llawn amser yn cael eu ffafrio ond bydd cynllun rhan amser yn cael ei ystyried.

Mae ein blaenoriaethau o fewn y tîm yn canolbwyntio ar:

  • Ofalu â thrugaredd, urddas, caredigrwydd a thosturi
  • Darparu gofal diogel, effeithiol heb unrhyw niwed
  • Gwrando ar gleifion a gofalwyr a gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithio
  • Datblygu arweinwyr hyderus, uchelgeisiol, ysbrydoledig
  • Gweithio o fewn y tîm adnoddau cymunedol a phartneriaid y diwydiant er budd cleifion a’r boblogaeth
  • Gweithlu Nyrsio a Bydwreigiaeth chwilfrydig, dadansoddol sydd wedi’i rymuso

 Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio medrus, annibynnol i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Mae dyletswyddau’n cynnwys asesiad a chefnogaeth gofal lliniarol, gofal ar ddiwedd oes, cefnogi ac asesu unigolion a gofalwyr â chyflyrau iechyd tymor hir, hybu sgiliau hunanreoli a gofalu am friwiau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am roi cymorth i Arweinydd y Tîm wrth reoli pecynnau amlddisgyblaeth/amlasiantaeth o ofal wedi'i drefnu a gofal heb ei drefnu i gleifion sydd â nifer o anghenion gofal lliniarol a chymhleth. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo Arweinydd y Tîm yn seiliedig ar ofynion y tîm nyrsio trwy ddefnyddio sgiliau rheoli ac arwain effeithiol.

Yn gyfrifol am benodi gweithgareddau nyrsio clinigol i aelodau’r tîm nyrsio cymunedol sydd â'r sgiliau priodol, gan sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu i boblogaeth y practis.

Yn gyfrifol am benodi gweithgareddau nyrsio clinigol i aelodau’r tîm sydd â'r sgiliau priodol, gan sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu i boblogaeth y practis.

Yn gyfrifol am flaenoriaethu ymweliadau â’r cartref a ddirprwyir, yn unol ag angen clinigol a lleoliad y claf.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn Nyrs Gofrestredig ac wedi ennill neu fod yn gweithio tuag at, y Diploma / Gradd / Meistr mewn Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Nyrsio Ardal) a bod yn Nyrs Bresgripsiwn cofrestredig.

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac

 

 

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Live registration with NMC as Registered Nurse
  • Post registration District Nursing qualification (BSC in relevant subject)
  • Experience of proactive caseload management of wide range of patients including those with chronic conditions
Meini prawf dymunol
  • Independent prescribing qualification
  • MSc Advanced Clinical Practice
  • Management / Leadership qualification or equivalent preparation
  • Experience at management level demonstrating ability to deliver improvements to service users' care

Values

Meini prawf hanfodol
  • Ability to demonstrate PTHB values

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Clinical experience in assessing, plannin, implementing and evaluating patient care.

Other

Meini prawf hanfodol
  • Ability to be flexible in order to meet service needs and be able to travel within the role.

Aptitudes & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to use computer systems to a well-developed level (email, word processing, spreadsheets)
  • Well-developed verbal & written communication skills, with the ability to encourage and motivate team members with good use of communication skills.
  • Effective multi agency team player, including the ability to engage positively with carers.
  • Demonstrate ability & track record of acting with care,compassion, promotingdignity/respect. Role modelling highest standard of professionalism.
  • Knowledge/skills to manage patients with complex needs and the ability to implement effective change.
  • High level knowledge regarding NMC code of conduct, proven ability to work under time constraints in often complex situations.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cheryl Gallier
Teitl y swydd
District Nurse Team Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01686 414234
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Dyddiad cau: 30/04/2020

Jessie Bergstrom

Arweinydd Tîm Nyrsys Ardal

01597 828765

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg