Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintyddol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Amser tymor)
- Oriau
- Rhan-amser
- Oriau tymor ysgol
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS052-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty y Drenewydd
- Tref
- Y Drenewydd
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Iechyd Deintyddol
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr cymorth Gofal Deintyddol i ymuno â’r Tîm Cynllun Gwên yn y Drenewydd. 12 mis, cyfnod penodol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos ag Ysgolion a Meithrinfeydd i sefydlu a chynnal cysylltiadau i gyflawni’r Rhaglen Cynllun Gwên.
Swydd yn ystod y tymor yn unig yw hon, 3 diwrnod o 6.5 awr y dydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r rôl yn cynnwys gyrru i leoliadau, cludo cyflenwadau ac ymgysylltu â staff y lleoliad, yn ogystal â gweithio gyda’r tîm i ddarparu a monitro’r rhaglen.
Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a byddwch yn cymryd rhan weithredol yn monitro lefelau stoc, ynghyd â chasglu a monitro data.
Os ydych yn chwilio am rôl amrywiol, gyda chymysgedd o yrru a gwaith gweinyddu, yn berson brwdfrydig ac ysgogol, gyda’r awydd i wneud gwahaniaeth i gwella iechyd deintyddol, yna efallai bod y swydd hon yn addas i chi.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Educated to GCSE grade C or Essential Skills literacy / numeracy L2
- Computer literate and experience of using Microsoft packages
- Ability to organise and collate data
Meini prawf dymunol
- NVQ 2 Nutrition related qualification
- First Aid at work
Experience
Meini prawf hanfodol
- Eperience of working in a team, or on own initiative
- Able to demonstrate experience of working with and liaising with a variety of people ranging from children to adults
Meini prawf dymunol
- Previous experience in Healthcare
Aptitude and Abilites
Meini prawf hanfodol
- Ability to work independently
- Reliable and adaptable to change
- able to communicate clearly and effectively
Meini prawf dymunol
- Understanding of the role of oral health in health and disease
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values and Behaviours
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel within Powys and deliver boxes of supplies
- Flexible in approach to work and changing needs of colleagues and the service
- Undertake training and personal development as required for this post
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqui Bennett
- Teitl y swydd
- Designed to Smile Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754 452313
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector