Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymwelydd Iechyd Banc
Band 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rheoli cystlltiadau plant cymru iach o fewn poblogaeth ddiffiniedig; gyda'r nodau cyffredin o gynyddu gwytnwch teuluoedd, gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd wrth ddiogelu lles plant
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am recriwtio ymwelydd iechyd i weithio'n effeithiol mewn lleoliadau amlasiantaeth i hybu iechyd a lles. Bydd deiliad y swydd yng Nghaersws yn gyfrifol am reoli llwyth achosion a chyflawni Rhaglen Plant Iach Cymru, sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel i deuluoedd, unigolion a grwpiau yn y gymuned er mwyn hybu eu lles corfforol, cymdeithasol a seicolegol.
Dylai'r ymgeiswyr fod yn nyrs gofrestredig gyda chymhwyster ymwelydd iechyd cofrestredig. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, tystiolaeth o waith amlasiantaeth a phrofiad amddiffyn plant yn hanfodol. Byddwch hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae gwybodaeth am yr agenda iechyd bresennol sy'n ymwneud â phlant, teuluoedd a gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn anghenraid. Bydd hefyd angen i ddeiliad y swydd allu teithio i ymgymryd â dyletswyddau'r swydd mewn lleoliadau amrywiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais yn yr un modd.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Experience
Meini prawf hanfodol
- SCPHN Health Visiting Post Graduate Diploma or Certificate / Nurse Prescribing
- Current NMC Registration
Meini prawf dymunol
- SCPHN degree
- Mentor Training
Qualifications and /or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- In depth understanding of Public Health Agenda and priorities / Ability to apply local strategies / Understanding of clinical governance agenda / All Wales Child Protection Procedures and Practice (2015) / In depth knoweldge of health visiting practice and strategic drivers and Health Child Wales Programme (2015)
Meini prawf dymunol
- SCPHN Degree Mentorship Level 3 Safeguarding Clinical Supervisor
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent Interpersonal and Communication skills / Effective mentoring / Ability to work autonomously / Ability to work under pressure and meet deadlines / Flexible approach to unpredictable workload demands/work patterns
Meini prawf dymunol
- MECC / CHange Management Skills
Values
Meini prawf hanfodol
- Ability to reflect and critically appraise own performance / Confident and ability to motivate others / Team player and change agent
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel between sites and visits in a timely manner
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catrin Davies
- Teitl y swydd
- Flying Start Health Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07964780127
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector