Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-PST002-0125-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Y Drenewydd
Tref
Y Drenewydd
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Technegydd Cymorth Ysbyty Rheoli Meddyginiaethau

Gradd 5

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n chwilio am brofiad cyffrous ac unigryw? Mae cyfle wedi codi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys i Dechnegydd Fferyllfa ymuno â'n tîm. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n frwdfrydig ac yn awyddus dros ofal i gleifion sydd am wella gwasanaethau cleifion, i ymuno â ni yn y tîm fferylliaeth, gan gefnogi ein cymuned ac ysbytai cymunedol.

Byddwch ar flaen y gad wrth ddarparu’r gwasanaeth, ac yn gweithio law yn llaw gyda chlinigwyr, ysbytai cymunedol a nyrsys ardal, y tîm iechyd meddwl, therapyddion, fferyllwyr cymunedol a fferyllwyr y practis, a nyrsys arbenigol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan Dîm Rheoli Meddyginiaethau profiadol o fferyllwyr, technegwyr fferyllfa, Nyrsys Rheoli Meddyginiaethau, cynorthwywyr fferyllol a staff gweinyddol. Byddwch yn aelod gwerthfawr iawn o'r tîm a byddwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu’n bersonol a hyfforddiant parhaus.

Mae’r swydd hon yn un barhaol am 37.5 awr yr wythnos, gan weithio fel rhan o dîm ar ward yng Ngogledd Powys. Byddai ceisiadau gan Dechnegwyr cofrestredig sydd eisoes â chymhwyster ACPT ac sydd wedi'u hachredu ym maes Rheoli Meddyginiaethau yn ddymunol ond bydd ceisiadau gan dechnegwyr heb y rhain yn cael eu hystyried. Bydd ceisiadau am secondiad yn cael eu hystyried a chroesewir ceisiadau gan dechnegwyr fferyllfa cyn-gofrestru cyfredol sydd i fod i gofrestru yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf (sylwch, yn dibynnu ar brofiad y gallai trefniadau Atodiad 21 fod yn berthnasol).

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel rhan o’r swydd bydd y deiliad yn cefnogi timau a chleifion mewn ystod o amgylchiadau gofal - yn bennaf yn ysbytai cymunedol ond hefyd wardiau rhithiwr a thai personol y claf. Byddant hefyd yn gwneud y canlynol:

Sicrhau y ceir y gorau allan o feddyginiaeth ar bob achlysur.

Gwella gwasanaethau i gleifion drwy reoli meddyginiaeth ar y ward, gan gynnwys cymryd stoc/ asesu meddyginiaethau'r claf ei hun. Archebu meddyginiaethau yn electronig. Cadarnhau hanesion meddyginiaeth gyda chleifion ac ail-asesu meddyginiaethau. Cwnsela cleifion ar feddyginiaethau newydd.

Cysylltu â fferyllwyr clinigol, aelodau tîm amlddisgyblaethol a chydweithwyr gofal sylfaenol.

Datblygu a darparu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a systemau diogel.

Hwyluso'r broses o ryddhau cleifion a'u meddyginiaethau yn effeithiol. Gall hyn gynnwys cefnogi cleifion a staff gofal ar ôl y broses rhyddhau o ysbyty.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am fodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle i fod. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys.  Powys ydy’r sir fwyaf yng Nghymru, gydag Eryri i’r Gogledd a Bannau Brycheiniog i’r De, ac mae’r golygfeydd ysblennydd yn werth eu gweld. Gan weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau ysbyty, cymuned, iechyd meddwl ac anabledd dysgu sydd wedi ennill gwobrau, felly mae ein portffolio yn amrywiol iawn. Rydyn ni’n falch o gynnig gofal ar lefel heb ei hail i’n cleifion, heb sôn am amrywiaeth eang o yrfaoedd i weithwyr proffesiynol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o'r GIG yng Nghymru. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â thîm y Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]

Mae Camu i Iechyd yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG gyda phobl yng nghymuned y Lluoedd Arfog.

Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg; ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.

 

Manyleb y person

Qualifications and / or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Qualified Pharmacy Technician (NVQ3, BTEC Pharmacy Specialist, etc)
  • Current registration with the GPHC
Meini prawf dymunol
  • Accredited Checking Technician qualification held, or relevant experience Medicines Management accredited

Other

Meini prawf hanfodol
  • Role will require travel between sites – applicant must have ability to travel
  • Ability to work flexibly to meet the needs of patients being served
Meini prawf dymunol
  • Driver’s license

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Experience in Specialist Pharmacy Technician ward-based or Medicines Management role
Meini prawf dymunol
  • Experience of POD’s scheme
  • Experience of working with electronic Pharmacy systems

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to train and convey knowledge to others, where information may be sensitive
  • Ability to communicate complex information and use appropriate questioning techniques and documentation methods to ensure understanding
  • Able to make judgements on immediate priorities for work
  • Able to analyse usage patterns, activity data to plan ward stock etc
  • Able to work on own initiative as well as part of team
  • Knowledge of relevant Pharmacy/Medicines legislation
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh
  • Ability to plan rotas, supervise junior support staff

Values

Meini prawf hanfodol
  • Demonstrate PTHB Values
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kathryn Harries
Teitl y swydd
Medicine Management Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 712641
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kathryn Harries - 01874 712641

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg