Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapydd
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-AHP024-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
North/mid Powys
Tref
Welshpool
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Ffisiotherapydd Arbenigol - Anadlol

Gradd 6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd y rôl yn cynnwys darparu adsefydlu ysgyfeiniol drwy fodelau wyneb yn wyneb a rhithwir, gan gefnogi cleifion i wella eu gallu i wneud ymarfer corff, eu gallu gweithredol, rheoli symptomau ac ansawdd eu bywyd. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu clinigau ffisiotherapi anadlol a chlirio’r frest arbenigol mewn lleoliad cleifion allanol, yn ogystal â chynnal ymweliadau cymunedol ac ymweliadau cartref priodol ar gyfer cleifion sydd angen asesiad neu ymyrraeth yn eu hamgylchedd eu hunain.

Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau anadlol cynhwysfawr ac yn datblygu cynlluniau triniaeth ac adsefydlu unigol, gan gynnwys technegau ffisiotherapi anadlol, clirio’r llwybrau anadlu, strategaethau anadlu, rhagnodi ymarfer corff a chefnogaeth ar gyfer hunanreoli. Bydd yn cyfrannu at asesu a rheoli cleifion â chyflyrau anadlol cymhleth a hirdymor, ac yn cefnogi osgoi derbyniadau i’r ysbyty a rhyddhau cynnar gyda chymorth, lle bo hynny’n briodol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaethol (MDT) 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i Ffisiotherapydd Band 6 rhan-amser ymuno â'n tîm yn y Bwrdd Iechyd.  Mae'r tîm Anadlol yn darparu rheolaeth a gofal amlddisgyblaethol i gleifion sy'n oedolion, sydd ag ystod o gyflyrau anadlol, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (sef COPD) yn bennaf, bronciectasis a chlefyd rhyng-gysylltiedig yr ysgyfaint a'r rhai sydd angen ocsigen yn y cartref a'r clinig.

Bydd y Ffisiotherapydd Anadlol yn darparu gwasanaethau adsefydlu ysgyfeiniol sy'n seiliedig ar ansawdd yn y gymuned a/neu'n ddigidol, gan ddarparu asesiad ffisiotherapi, diagnosis a chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion sydd â chyflwr anadlol sydd wedi cael diagnosis. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli ei lwyth achosion ei hun a bydd disgwyl iddo/iddi gyfathrebu ag ystod eang o bobl, gan gynnwys cleifion a'u teuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol, gan gynnwys darparwyr acíwt y tu allan i'r sir a bydd yn ymwneud â datblygu a chynnal perthynas waith agos â'r holl randdeiliaid perthnasol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Degree or recognised equivalent in Physiotherapy
  • HCPC registration
  • Evidence of relevant post graduate study and personal development appropriate to the specialist clinical area – CPD portfolio
  • Broad working knowledge of Physiotherapy techniques across all aspects of treatment
  • A high level of knowledge and skills appropriate to the specialist clinical area
  • Ability to keep legible, clear and concise notes
Meini prawf dymunol
  • Evidence of involvement with relevant Clinical Interest group(s)
  • Membership of CSP

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Significant experience working within the specialist clinical area
  • Previous senior experience
  • Experience of working with junior staff/ assistants/ students and to develop other staff both formally and informally
  • Evidence of involvement in research/ audit
  • Good presentation/ teaching skills
Meini prawf dymunol
  • Experience of working in the NHS as a Physiotherapist

Aptitude & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to work independently
  • Able to work collaboratively within the physiotherapy team and with the wider MDT
  • Able to cope with moderate physical exertion throughout the working day
  • Ability to work under pressure
  • Autonomous decision maker
Meini prawf dymunol
  • Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.

Values

Meini prawf hanfodol
  • Excellent interpersonal skills
  • Self-motivated
  • Committed to personal and team development
  • Active professional involvement eg: H&S, Branch network

Other

Meini prawf hanfodol
  • Flexible working towards the needs of the service e.g. weekend rotas
  • Ability to travel between sites in a timely manner

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Antony Roberts
Teitl y swydd
Advanced Practitioner Team Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07745643716
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Contact days for Antony- Monday-Thursday. 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg