Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cleifion allanol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-NMR023-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais
Tref
Ystradgynlais, Abertawe
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/03/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Nyrs Gofrestredig

Gradd 5

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn adran Cleifion Allanol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Gofal Wedi’i Gynllunio ar gyfer nyrs gofrestredig.

Ydych chi'n nyrs gofrestredig sy'n chwilio am her newydd?

Mae adran Cleifion Allanol Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais yn chwilio am nyrs gofrestredig ddeinamig a brwdfrydig i ymuno â'r adran. Byddwch yn gweithio, fel rhan o dîm yn ogystal ag yn annibynnol i sicrhau safon uchel o ofal nyrsio a diogelwch i gleifion a phob defnyddiwr gwasanaeth yn yr adran Cleifion Allanol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae yna ystod o arbenigeddau a ddarperir yn yr ysbyty fel:

ENT, Gynaecoleg, Orthopedig, Wroleg, Rhewmatoleg, ac Offthalmoleg.

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu anghenion gofal, am waith datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal, am gymryd rhan yn yr agenda llywodraethu clinigol ehangach, gan gynnwys datblygu gwasanaethau, a chyfrannu at hyn, ac am weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion cleifion. Bydd y nyrs yn gwerthuso cleifion sydd wedi’u haseinio mewn cyfleuster neu glinig cleifion allanol, yn pennu’r offer priodol y bydd eu hangen, yn gwneud paratoadau ac yn cynorthwyo meddygon yn ystod archwiliadau. Byddwch chi hefyd yn perfformio profion cleifion amrywiol ac yn rhoi meddyginiaethau o fewn cwmpas arfer nyrs gofrestredig.

Argymhellir ymweliad anffurfiol.

Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.

Gweithio i'n sefydliad

Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.

Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]

Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.

Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad NMC
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol cyfredol
  • Cymhwyster gradd neu brofiad clinigol perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu cydnabyddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o arwain cylchoedd archwilio
  • Sgiliau arwain
  • Sgiliau clinigol rhagorol
  • Gallu cyfrifiadurol
  • Angenrheidiol i redeg adran
  • Gwybodaeth gyfoes am faterion proffesiynol yn y proffesiwn nyrsio
  • Profiad o arbenigedd clinig
  • Gwybodaeth am brosesau rheoli
  • Cyfranogiad yn natblygiad SOP
  • Mewnbynnu data

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
  • Profiad o fod â rôl arweiniol mewn rheoli newid
  • Ymwybyddiaeth gyllidebol/ariannol
  • Sgiliau arwain
  • Hygyrch
  • Dynamig a llawn cymhelliant
  • Gofalu am gleifion a chydweithwyr
Meini prawf dymunol
  • Rhywfaint o allu i siarad, darllen a/neu ysgrifennu Cymraeg, neu awydd i ddysgu

Other

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i fodloni gofynion teithio'r swydd
  • Bod yn hyblyg o ran patrymau gwaith o fewn yr ardal glinigol ddynodedig ond hefyd bod yn barod i gefnogi gwasanaethau eraill ledled Powys

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Judith Jamieson
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager Outpatients Development
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 61 5654
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg