Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Casglu Gwaed
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37 awr yr wythnos (diwrnodau hir e.e. 4 diwrnod hir os yw amser llawn yn arfer.)
Cyfeirnod y swydd
120-NMR005-0725
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Pontyclun
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Nyrs Gofrestredig Clinig

Gradd 5

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.  

Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa.  Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.

Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.

 

Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma: www.welsh-blood.org.uk/welsh-blood-service-strategy-2023-2028

Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.

Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn https://welsh-blood.org.uk/careers/ 

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.  Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n nyrs gofrestredig brwdfrydig, tosturiol, blaengar, deinamig ac ymroddedig, sy’n chwilio am her newydd yn eich gyrfa o fewn sefydliad blaengar, sy'n canolbwyntio ar staff?  

Ydych chi'n angerddol ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella gwasanaethau parhaus?  Os felly, mae gennym ddewis gyrfa i chi.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrs Gofrestredig band 5 yn ein tîm casglu gwaed hanfodol, wedi'u lleoli yn Talbot Green o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae rôl nyrsio o fewn y gwasanaethau casglu yn rhoi datblygiad i staff o amrywiaeth o sgiliau clinigol a thechnegau casglu gan gynnwys casglu gwaed cyflawn.

Gan weithio fel rhan o dîm deinamig, mae rôl y Nyrs Casglu Gwaed yn rôl glinigol sy'n gyfrifol am gefnogi'r Nyrsys Cofrestredig Clinig Uwch a'r tîm casglu gwaed ehangach wrth ddarparu gofal unigol o ansawdd uchel i'n rhoddwyr sy’n achub bywydau.  Fel Nyrs casglu gwaed bydd disgwyl i chi ddarparu arweinyddiaeth glinigol effeithiol a thosturiol er mwyn sicrhau gofal gorau posibl o roddwyr.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a byddai ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cynnydd trwy rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar sail ychwanegol i sicrhau eu bod wedi'u paratoi'n ddigonol gyda'r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl glinigol allweddol hon. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi'r Uwch Nyrs Clinig i sicrhau bod modd casglu'r gwaed mewn clinigau rhoddwyr yn ddiogel ac effeithiol.

Cefnogi'r Uwch Nyrs Clinig ym mhob agwedd ar nyrsio a gofal clinigol rhoddwyr, gan sicrhau amgylchedd diogel i bawb wrth weithio yn y clinig. Cael eich cydnabod fel ffynhonnell wybodaeth glinigol am gyngor a chyfeiriad i staff anghlinigol.

Bydd gofyn i'r holl staff symud yn hyblyg drwy wahanol dimau a chyfleusterau casglu gwaed fel cyfleusterau rhoi gwaed symudol, safleoedd statig a chlinigau cymunedol sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol fawr.

Mae gofyniad y bydd deiliad y swydd yn cynnal teithiau wedi'u trefnu a fydd yn cynnwys arosiadau dros nos sawl gwaith y flwyddyn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym yn ffodus hefyd, i letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn. 

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac mae ganddi weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ydy'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy https://felindre.gig.cymru/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi eu hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now " i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig gyda chofrestriad presennol gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf.

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
  • Profiad o weithio mewn tîm.
  • Profiad o ymdrin â materion sensitif neu gyfrinachol a dealltwriaeth o sut mae hyn yn berthnasol i'r rôl.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd gofal iechyd. Gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd gofal iechyd.

Skills

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu a'r deheurwydd i ymgymryd â thynnu gwaed.
  • Sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig a rhifedd da.
  • Gallu gweithio'n drefnus ac yn fanwl gywir yn aml gyda gofynion sy'n cystadlu
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Gallu asesu anghenion rhoddwyr a allai fod yn gymhleth ac yn amodol ar newid. Deall y rôl mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ei chwarae yn y gymuned ehangach. Dealltwriaeth o gyfrinachedd
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd gofal iechyd.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Lacey
Teitl y swydd
Clinical Operations Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 622107
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mark Jenkins-Rheolwr Gweithrediadau Clinigol

[email protected]

01443 622183

Phillipa Blackford- Rheolwr Gweithrediadau Clinigol

Phillipa. [email protected]

01443 622183

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg