Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth Meddyginiaethau Arenno
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 130-PST032-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Treforys
- Tref
- Treforys
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/05/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/05/2025
Teitl cyflogwr

fferyllydd clinigol, Arennol
Gradd 7
Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.
Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am fferyllydd brwdfrydig i weithio yn ein Gwasanaeth Meddyginiaethau Arennol arloesol a chefnogol. Byddwch yn gofalu am bobl a chlefyd yr arennau ledled De-orllewin Cymru o'n hyb amlddisgyblaethol yn Ysbyty Treforys.
Mae galw cynyddol, meddyginiaeth newydd cyffrous a ffocws ar clefyd cronig yn yr arennau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd i’w groesawu, ac yn gyfle i fferylliaeth arwain gwelliannau yn iechyd a lles ein poblogaeth.
Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol i glinigwyr a chleifion mewnol sydd â chlefyd cronig ac acíwt ar yr arennau, pobl sy'n cael dialysis a'r rhai sy'n cael trawsblaniad aren. Mae meysydd arbenigol yn cynnwys gofal ar ol trawsblannu arennau, anemia arennol, anhwylder mwynau ac esgyrn, a fasgwlitis.
Bydd y rol hon hefyd yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o glefyd cardiofasgwlaidd, Anafiadau Acíwt i'r Arennau, rheolaeth ffarmacolegol amlawdriniaethol, stiwardiaeth gwrthficrobaidd, a rheoli symptomau. Byddwch yn rhagnodi'n rheolaidd (gyda'r cymwysterau gofynnol).
Byddwch yn gweithio ar draws rhyngwynebau lluosog, gan gynnwys gofal sylfaenol i eilaidd, rhyng-Bwrdd Iechyd a rhyng-arbenigedd, a chyda chomisiynwyr, darparwyr gwasanaethau annibynnol, y byd academaidd a'r trydydd sector.
Byddwch yn arwain prosiectau archwilio, gwella ansawdd ac ymchwil. Byddwch yn cyfrannu at addysg a hyfforddiant ein cydweithwyr aml-broffesiynol, a datblygiad hirdymor y Gwasanaeth Meddyginiaethau Arennol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Darparu cyngor ffarmacolegol a gofal i bobl a chlefyd yr arennau yn Ysbyty Treforys, ac i gleifion allanol ledled rhanbarth arennol De-orllewin Cymru
- Dadansoddi ac adolygu siartiau cyffuriau
- Cyfrannu at y gwasanaeth dosbarthu fferyllol arennol
- Rheoli a blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol
- Dehongli tystiolaeth briodol, a chanllawiau perthnasol er mwyn llunio cynlluniau gofal fferyllol
- Cyfrannu at cyfarfodydd amlddisgyblaethol ac adrannol
- Dadansoddi a dehongli data labordy yn effeithiol
- Gweithredu fel rhagnodwr annibynnol (gyda chymwysterau a phrofiad perthnasol)
- Rheoli risg glinigol ym mhob maes gofal fferyllol a chymryd camau priodol yn ol yr angen
- Sicrhau cydymffurfiaeth â phrotocolau a gweithdrefnau fferyllol
- Nodi problemau gyda dealltwriaeth claf neu allu i gymryd meddyginiaeth a darparu atebion addas
- Sicrhau y cedwir at brotocolau a chanllawiau perthnasol, a fformiwlau lleol
- Bod yn gyfrifol am storio meddyginiaethau a rheoli stoc fferyllol
- Cyfrannu at bolisïau a chanllawiau sy'n ymwneud a chyffuriau a'u rhoi ar waith
- Mynd ati i gynnal prosiectau archwilio a gwella ansawdd
- Darparu addysg a hyfforddiant i gydweithwyr
- Monitro defnydd a gwariant cyffuriau arennol, a chyfrannu at adroddiadau perthnasol
- Delio a sefyllfaoedd anodd yn effeithiol
- Cyfrannu at ddatblygiad digidol a chynaliadwyedd y gwasanaeth meddyginiaethau arennol
Gweithio i'n sefydliad
Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.
Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.
Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.
Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.
Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y prif ddyletswyddau uchod a'r disgrifiad swydd (Job Description) atodedig am ragor o wybodaeth am y rol hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd Meistr mewn fferylliaeth (MPharm)
- MSc/Diploma Ol-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Rhagnodwr Annibynnol Anfeddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad fel fferyllydd clinigol mewn ystod o arbenigeddau clinigol
- Tystiolaeth o archwilio clinigol, ymchwil ymarfer a gwella ansawdd
- Defnyddio systemau TG perthnasol yn y GIG megis meddyginiaeth, systemau clinigol a phatholeg
Meini prawf dymunol
- Defnyddio systemau digidol, gan gynnwys EPMA) a systemau arennol
- Profiad fel fferyllydd clinigol mewn meddygaeth arennol
- Datblygu a gweithredu polisi lleol, rhanbarthol a/neu genedlaethol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth glinigol gyffredinol ardderchog
- Gwybodaeth dda o feddyginiaeth arennol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
- Arloesol a threfnus
- Sgiliau TG da
- Hunanhyderus ac emosiynol wydn
- Agwedd gadarnhaol at newid
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio i lleoliadau gwahanol ar draws rhanbarth arennol De Orllewin Cymru
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Owain Brooks
- Teitl y swydd
- Lead Renal Pharmacist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792 531293
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector