Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Hematoleg
- Gradd
- NHS Medical & Dental: Consultant
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 130-NPTSSG10026S
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Singleton
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £110,240 - £160,951 Y Flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/09/2025
Teitl cyflogwr

Haematolegydd Ymgynghorol gyda diddordeb mewn Myeloma
NHS Medical & Dental: Consultant
EIN GWERTHOEDD A’N HYMDDYGIADAU
Rydym yn disgwyl fod pawb sy’n gweithio ar gyfer y Bwrdd Iechyd, beth bynnag yw eu rôl, yn rhannu ac yn ategu ein gwerthoedd ym mhopeth maent yn ei wneud:
- Gofalu am ein gilydd – ym mhob cyswllt dynol ym mhob un o’n cymunedau ac ym mhob un o’n ysbytai.
- Gweithio gyda’n gilydd - fel cleifion, teuluoedd, gofalwyr, staff a chymunedau fel ein bod yn rhoi cleifion yn gyntaf bob amser
- Gwella bob amser – fel ein bod ar ein gorau i bob claf ac ein gilydd
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe yn dymuno penodi i swydd Haematolegydd Ymgynghorol 10 sesiwn mewn Myeloid sydd wedi ymrwymo i weithio amlddisgyblaethol ar y cyd i gyflawni gofal cleifion o ansawdd uchel drwy weithredu modelau gwasanaeth arloesol i gefnogi'r gwaith o gyflawni targedau perfformiad ar yr un pryd â diogelu rhagoriaeth mewn addysg/hyfforddiant a gwerthfawrogiad o'r angen am ymchwil o ansawdd uchel a'i werth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu therapi gwrth-ganser systemig cynhwysfawr (SACT) ar gyfer cleifion sydd â myeloma a malaenedd hematolegol cysylltiedig.
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys y Tîm Amlddisgyblaethol ar gyfer y Croen a'r Tîm Amlddisgyblaethol Lymffoma, i gydlynu gofal cleifion.
Darparu mewnbwn arbenigol i ddiagnosis, cynllunio triniaeth, a gwaith dilynol ar gyfer achosion cymhleth, gan gynnwys myeloma atglafychol/anhydrin, cytoma plasma, ac MGUS. Ehangu a rheoli portffolio treialon clinigol mewn myeloma a chanserau cysylltiedig, gan adeiladu ar ddiwylliant ymchwil cryf yr Cymryd rhan mewn treialon recriwtio a chydweithio â nyrsys ymchwil a ddarparu treialon protocolau yn ddiogel ac yn effeithiol
=
Gweithio i'n sefydliad
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyfrifoldeb dros iechyd oddeutu 390,000 o bobl yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gyda chyllideb o tua £1 biliwn ac mae’n cyflogi 14 000 o bobl. Rydym yn Fwrdd Iechyd Prifysgol sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Ysgol Meddygaeth Abertawe, yr Ysgol Gwyddor Iechyd a’r Sefydliad Gwyddor Bywyd. Mae gan y Bwrdd Iechyd dri phrif ysbyty sy’n darparu ystod o wasanaethau: Ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe ac ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.
Darperir gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu mewn ysbytai (Ysbyty Cefn Coed, clinig Caswell Abertawe a Taith Newydd yng Nglanrhyd Pen-y-bont ar Ogwr) a lleoliadau cymunedol eraill.
Mae gennym hefyd ysbytai cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH), sy’n bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Gyda’r nod o wella lles a chyfoeth de-orllewin Cymru.
Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru ac mae wedi’i lleoli ar lain pum milltir Bae Abertawe. Mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer archwilio De-orllewin Cymru, mae llawer gael hefyd i ymwelwyr yn Abertawe ei hun.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
I gael rhagor o fanylion am y swydd hon, cliciwch ar yr adran dogfennau ategol i gael y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person. Mae’r rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
- FRCPath
- Ar Gofrestr Arbenigol gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol fel Haematolegydd clinigol neu’n gymwys am CCT o fewn 6 mis i ddyddiad y cyfweliad ac wedi pasio’r arholiad ymadael neu ddatganiad cymhwyster ar gyfer cofrestru a gyhoeddwyd gan PMETB neu gymhwyster meddygol sylfaenol a chymhwyster arbenigol cydnabyddedig o Aelod-wladwriaeth Ewropeaidd a fydd yn caniatáu mynediad uniongyrchol i Gofrestr Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol Bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt wedi'u hyfforddi yn y DU ddangos tystiolaeth o gywerthedd â CCT y DU
- Trwyddedwyd i ymarfer
Meini prawf dymunol
- Gradd uwch MD/PHD
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatblygu perthynas waith effeithiol, ar sail unigol ac amlddisgyblaethol gyda staff ar bob lefel (“Cydweithio”)
- Tystiolaeth o weithio gyda chydweithwyr rheoli a chlinigol i wella gwasanaeth (“Gwella bob amser”)
- Yn gwerthfawrogi partneriaeth gydag asiantaethau eraill (“Cydweithio”)
- Tystiolaeth o addysgu a hyfforddi staff clinigol ôl-raddedig
- Tystiolaeth o gychwyn, datblygu a chwblhau archwiliad
- Profiad o ymchwil mewn Haematoleg
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Arweinyddiaeth effeithiol; y gallu i gymryd cyfrifoldeb a dangos arweiniad pan fo’n briodol
- Deall pwysigrwydd Gweithio mewn Tîm yn effeithiol gyda staff ar bob lefel, cymryd amser i wrando, deall a chynnwys pobl; ymateb i newid priodol (“Cydweithio”)
- Deall egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus a’r gallu i’w cymhwyso (“Gofalu am ein gilydd”)
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol – y gallu i gyfathrebu’n effeithiol (ar lafar ac ar bapur) â chleifion, cydweithwyr, perthnasau a staff; cyfathrebu’n agored ac yn onest ac egluro pethau’n glir (“Gofalu am ein gilydd”)
- Dangos dysgu ym maes gwyddoniaeth a methodoleg Gwella, y gallu a’r cymhelliant i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad i wella’r gwasanaeth (“Gwella bob amser”)
- Deall systemau gwybodaeth a thechnoleg
- Sgiliau Clinigol wrth reoli Myeloma
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Hyblyg ac yn gallu addasu i ofynion sy’n cystadlu â’i gilydd gyda’r gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau ac ymdopi â rhwystrau
- Gallu ymgymryd â dyletswyddau ar-alwad
- Ymrwymiad i welliant parhaus, gydag agwedd gadarnhaol, yn ceisio dysgu, ac yn datblygu sgiliau a’r gwasanaeth yn barhaus (“Gwella bob amser”)
- Brwdfrydedd i gymryd rôl arweiniol mewn datblygiad clinigol
- Empathi a sensitifrwydd: y gallu i wrando, deall a chynnwys pobl; gweld pobl fel unigolion
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Ann Benton
- Teitl y swydd
- Consultant Haematologist and Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792702222
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Medical HR
SA6 6NL
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector