Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radiotherapi
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun- Dydd Gwener, hanner awr o ginio heb dâl, penwythnos ar alwad, gweithio penwythnosau gwyl y banc)
Cyfeirnod y swydd
130-AHP050-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Singleton
Tref
Abertawe
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Radiograffydd Therapi Band 5

Gradd 5

Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.

Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.


Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.


 

Trosolwg o'r swydd

Fel Radiograffydd, rydych yn gyfreithiol gyfrifol ac yn atebol am eich gweithredoedd proffesiynol, gan sicrhau bod awdurdodiad 
priodol yn unol â meini prawf sefydledig wedi'i fodloni a bydd y driniaeth o fudd i'r claf.

Sicrhau bod amgylchedd gwaith diogel yn cael ei gynnal bob amser ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr â'r adran.                                                    

Bydd deiliad y swydd yn darparu cynllunio a thriniaeth radiotherapi arbenigol iawn diogel a chywir i gleifion, gan gwmpasu ystod 
eang o safleoedd tiwmor. 

Gweithio ar sail gylchdro drwy ardaloedd cyn-driniaeth a thriniaeth yr adran. 
Arddangos safon uchel o onestrwydd ac ymarweddiad proffesiynol, gan gynnal cyfrinachedd llym cleifion bob amser a thrwy 
hynny gyfiawnhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
 Sicrhau bod triniaeth radiotherapi yn cael ei chyflwyno a'i gwirio'n effeithiol bob amser. 
Sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau IR (ME) R sy'n llywodraethu'r defnydd o ymbelydredd ïoneiddio.
Cynnal y cymwyseddau priodol sy'n ymwneud â thechnegau triniaeth, offer, gofal cleifion, sgiliau cyfathrebu, arloesi a deheurwydd llaw.
Gweithio i system rota / shifft, fel sy'n ofynnol gan anghenion y gwasanaeth. Disgwylir i chi ymgymryd â dyletswyddau ar alwad 
sy'n gymesur â phrofiad.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn cyfathrebu gwybodaeth arbenigol a chymhleth iawn am driniaeth, effeithiau a rheoli symptomau i'r claf/gofalwr, yn aml yn 
gorfod goresgyn rhwystrau fel anableddau dysgu, ethnigrwydd, materion seiciatrig, byddardod, oedran ac ati.
 Cysylltu â staff nyrsio a meddygol ar wardiau ac ysbytai eraill i hwyluso trefnu pob apwyntiad a throsglwyddiad cleifion.
 Cyfathrebu mewn modd cysurlon ac empathetig, gyda chleifion a pherthnasau ynghylch triniaeth gweithdrefnau. Gall hyn 
gynnwys gwybodaeth sensitif iawn.

Cyfrannu tuag at reoli llwyth gwaith cleifion ar y peiriannau triniaeth a CT/Sim i gynnwys amserlennu apwyntiadau. Yn gyfrifol am 
addasu llwybr gofal claf, pan fo angen, e.e. cysylltu â chleifion a newid eu hamserlenni triniaeth.

Gweithredu fel ymarferydd ymreolaethol bob amser, gan ddehongli cynlluniau triniaeth gymhleth a chyfrifiadau. 
 Adolygu'r gwasanaeth clinigol a ddarperir yn gyson, e.e. cyfeirio at gymorth arbenigol ychwanegol e.e. Radiograffydd Adolygu.
Sicrhau bod sicrwydd ansawdd dyddiol yn cael ei gynnal.
Yn gyfrifol am ddarparu radiotherapi yn ddiogel ac yn gywir drwy gymryd rôl weithredol wrth asesu a gwerthuso cyfeintiau 
triniaeth cynllunio a gwirio a chyfrifo taflenni triniaeth.
Mewnbynnu, adfer a chynnal manylion cleifion a thriniaeth yn gywir o ystod o systemau cyfrifiadurol sy'n galluogi i ymchwil, 
archwiliadau a data ystadegol gael eu cwblhau.
Cynnal a diweddaru'r holl hyfforddiant gorfodol perthnasol a'r holl sgiliau clinigol perthnasol.

Gweithio i'n sefydliad

Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar. 

Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi. 

Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael. 

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, osydyn nhw'n anabl. 

Mae ein gwerthoeddGofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn. 

Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach. 

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Fel Radiograffydd, rydych yn gyfreithiol gyfrifol ac yn atebol am eich gweithredoedd proffesiynol, gan sicrhau bod awdurdodiad 
priodol yn unol â meini prawf sefydledig wedi'i fodloni a bydd y driniaeth o fudd i'r claf. 
Sicrhau bod amgylchedd gwaith diogel yn cael ei gynnal bob amser ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr â'r adran.                                                       Gweithio ar sail gylchdro drwy ardaloedd cyn-driniaeth a thriniaeth yr adran. 
Arddangos safon uchel o onestrwydd ac ymarweddiad proffesiynol, gan gynnal cyfrinachedd llym cleifion bob amser a thrwy 
hynny gyfiawnhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
 Sicrhau bod triniaeth radiotherapi yn cael ei chyflwyno a'i gwirio'n effeithiol bob amser. 
Sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau IR (ME) R sy'n llywodraethu'r defnydd o ymbelydredd ïoneiddio.
Cynnal y cymwyseddau priodol sy'n ymwneud â thechnegau triniaeth, offer, gofal cleifion, sgiliau cyfathrebu, arloesi a deheurwydd llaw.
Gweithio i system rota / shifft, fel sy'n ofynnol gan anghenion y gwasanaeth. Disgwylir i chi ymgymryd â dyletswyddau ar alwad 
sy'n gymesur â phrofiad.

Cymryd rhan yn rheolaidd mewn dyletswyddau brys y tu allan i oriau, rota ar alwad ar benwythnosau brys a gweithio ar ŵyl y 
banc yn ôl yr angen gan reolwyr gweithredol.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • BSc (Anrh) Radiograffeg Therapi DCR (T)
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu dangos gwerthoedd BIPBA
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau addysgu a mentora

Sgiliau a gallu

Meini prawf hanfodol
  • Cyfathrebu effeithiol
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser gwych
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG
  • Sgiliau Arweinyddiaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth gyffredinol am Egwyddorion a Thechnegau Radiotherapi.
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o rheoliadau IR (ME) R

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Anna Iles
Teitl y swydd
Operational Manager / Rheolwr Gweithredol
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 957612
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sophie Jenkins

Rheolwr Gweithredol

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg