Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cymunedol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 20 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC320-1126W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Clerc Rhyddhad/ Swyddog Clercyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Os ydych yn mwynhau gweithio mewn lleoliadau gwahanol a chwrdd ag amrywiaeth o bobl, efallai mai hon fydd y rôl berffaith i chi!
Mae'n bleser gennym gynnig cyfle i ddau Glerc Llanw ymuno â'n timau gweinyddol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau TG da ac sydd â gwybodaeth gadarn am systemau cyfrifiadurol sy'n gallu rhoi cymorth gweinyddol effeithiol ar draws amrywiaeth o leoliadau.
Bydd rôl y Clerc Llanw yn rhoi cymorth gweinyddol i adrannau ar draws ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam, gan gyflenwi ar gyfer gwasanaethau yn ôl yr angen, felly mae lefel uchel o hyblygrwydd yn ofynnol. Mae'r swydd amrywiol hon yn cynnig y cyfle i ennill profiad ar draws timau amrywiol gan ddatblygu ystod eang o sgiliau gweinyddol.
Mae'n rhaid i ddeilydd/deiliaid y swydd feddu ar natur barod ei gymorth a dymunol ynghyd â brwdfrydedd i wneud ei orau glas o ran bodloni disgwyliadau a gofynion cleifion, gan sicrhau bod eu taith glinigol mor rhwydd â phosibl.
Mae'r swyddi Clercod Llanw yn rolau rhan-amser 1 x 20 awr a 1 x 19.5 bob wythnos a bydd gofyn gweithio rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn prosesu tasgau / cyfrifoldebau gweinyddol amrywiol a fydd yn cynnwys y canlynol;
- Cyfarch cleifion / defnyddwyr gwasanaeth / ymwelwyr â’r ysbyty wyneb yn wyneb.
- Nodi cleifion sy’n cyrraedd ar system gweinyddu cleifion yr ysbyty pan fyddant yn ymweld ar gyfer apwyntiad Cleifion Allanol.
- Prosesu canlyniadau o glinigau / apwyntiadau cleifion allanol ar system gweinyddu cleifion yr ysbyty.
- Prosesu clinigau sy’n cael eu canslo, cysylltu â chleifion ac aildrefnu apwyntiadau Cleifion allanol.
- Derbyn ceisiadau am apwyntiadau Fflebetomi dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
- Paratoi nodiadau cleifion ar gyfer clinigau Cleifion Allanol.
- Cofrestru cleifion sy’n mynychu’r Uned Mân Anafiadau (MIU).
- Gofyn am nodiadau / cyfeiriadau cleifion ac ati.
- Cyfarwyddo cyfeirio ar adeg cyrraedd yr ysbyty.
- Trefnu ystafelloedd a chadw cofnodion yn hynny o beth.
- Creu archebion drwy’r system gaffael.
- Derbyn nwyddau.
- Adrodd ar faterion yn ymwneud ag Ystadau a’u cofnodi.
- Delio â phob math o ymholiadau cyffredinol wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thros e-bost gan gleifion a chydweithwyr.
- Monitro negeseuon testun a delio â nhw gan gleifion ynghylch eu presenoldeb yng nghlinigau Cleifion trwy raglen ENVOY.
Sylwer, nid rhestr gynhwysfawr o ddyletswyddau yw hon, ond mae’n rhoi trosolwg o gyfrifoldebau’r Clerc Llanw.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- TGAU mewn Saesneg a Mathemateg (gradd C neu uwch) neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- NVQ2 mewn Gweinyddiaeth / Gofal Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clercyddol/cyfrifiadurol blaenorol
Meini prawf dymunol
- Profiad o holl weithdrefnau swyddfa mewn amgylchedd GIG
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddefnyddio Word ac E-bost
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd prysur, a delio â nifer o dasgau gwahanol ar yr un pryd
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth glir o ystyr Cyfrinachedd
- Y gallu i gyfathrebu'n dda mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar Ymagwedd hyblyg at weithio
- Flexible approach to working
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddangos profiad ym mhob agwedd ar Microsoft Office gan gynnwys Excel.
- Gwybodaeth am gronfeydd data, e.e., WPAS/PIMS/Myrddin
- Profiad o fewn maes cyfrinachedd uchel.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dangos ymrwymiad i weithio'n gyson yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol fel y gwelir yn ein gwaith o ddydd i ddydd a thrwy drafodaeth
Arall
Meini prawf hanfodol
- Byddwch yn brydlon, agwedd hyblyg, ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm prysur.
- Cynnal agwedd gadarnhaol Meddu ar y gallu i weithio'n barod dan gyfarwyddyd a heb oruchwyliaeth, a deall yr angen i geisio cyngor pan fo angen.
- Y gallu i Deithio ar draws gwahanol ysbytai a safleoedd cymunedol pan fo angen
- Have the ability to work willingly under direction and unsupervised and understand the need to seek advice when necessary
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o Oracle neu system debyg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Wendy Seabrook
- Teitl y swydd
- Assistant Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 8588356
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Wendy Seabrook
Assistant Operational Manager
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
