Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio Cymunedol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 24 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS484-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Iechyd Parc Caia
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd- Tim Nyrsio Ardal Ffordd Llwyni
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 rhan-amser parhaol sy'n gweithio 24 awr yr wythnos o fewn Tîm Nyrsio Ardal Parc Caia.
Bydd deilydd yn gyfrifol am gynnal gwaith dynodedig, bydd llawer o hwn yn ofal cleifion uniongyrchol. Bydd y gofal hwn yn cael ei ddirprwyo gan nyrsys cofrestredig a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio dan oruchwyliaeth anuniongyrchol staff hyfforddedig. Ar adegau, bod yn gyfrifol am ymgymryd â thasgau yn sgil atgyfeiriad uniongyrchol, y tu allan i'r Tîm Nyrsio Ardal.
Bydd cynefino llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer y swydd, a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymhellach.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Fel aelodau craidd y Tîm Nyrsio Ardal, bydd BIPBC (Dwyrain) yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich cyfraniad.
Bydd eich rôl yn y gymuned fod yn heriol ac yn gofyn am ymrwymiad wrth i ni ddatblygu gwasanaethau ar draws cymunedau Wrecsam a Sir y Fflint. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu chi gyda'r adnoddau dysgu a chyfleoedd ar gyfer datblygiad sy'n eich galluogi i hyrwyddo eich addysg a hyfforddiant er mwyn i chi barhau i ddarparu gofal o safon i'ch cleifion a chleientiaid.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig a gofal iechyd neu brofiad cyfatebol a bydd dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethold. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rol a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith / cyrsiau byr
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisiau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel. Hefyd cyfrinachedd er enghraifft yn Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, a darparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
- Profiad o weithio yn y GIG
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysfrifenedig, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif
- yn gallu gweithio i safon uchel gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl
- Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen
- Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
- Sgiliau trefnu a'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun ac eraill yn effeithlon
- Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rol, sy'n cynnwys codi, cynorthwyo gyda symudedd, a chyflawni tasgau llaw eraill
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Yn gallu gweithio i safon uchel gyda lleied o oruchwyliaeth a phosibl
Meini prawf hanfodol
- Cliriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan gynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig Oedolion/ Plant
- Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft
- Yn gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kelly McLeod
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 859672
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector