Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio Cymunedol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (2 swydd 15 awr yr wythnos ar gael)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS783-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Iechyd Plant Maelor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 Pro-rata y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Gynorthwyydd Gofal Iechyd - Gwasanaeth Gyda'r Nos a Dros Nos
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd mae gennym y swyddi gwag Band 3 Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd canlynol yng Ngwasanaeth Nyrsio Ardal Gyda'r Nos a Dros Nos Ardal y Dwyrain:
Band 3 - 2 swydd 15 awr yr wythnos
Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu ar draws siroedd Wrecsam a Fflint ac mae'r tîm wedi'i leoli yn Wrecsam. Mae'r gwasanaeth yn cwmpasu'r oriau rhwng 6.00 pm ac 8.00 am.
Gellir cynnal trafodaethau pellach yn y cyfweliad neu drwy drafodaethau anffurfiol.
Bydd cynefino llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer y swydd, a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymhellach.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y swydd yn cefnogi'r Nyrs Cofrestredig mewn darparu gofal cleifion cynlluniedig a heb ei gynllunio i gleifion a chynnig cefnogaeth i ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol yn eu cartrefi eu hunain a chartrefi gofal.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig a gofal iechyd neu brofiad cyfatebol a bydd dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethold. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rol a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith / cyrsiau byr
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisiau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion / plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel. Hefyd cyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Yn gallu gweithio i safon uchel gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a possibl
Meini prawf hanfodol
- Cliriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan gynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig Oedolion / Plant
- Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft
- Yn gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysfrifenedig, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif
- Yn gallu gweithio i safon uchel gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl
- Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen
- Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
- Sgiliau trefnu a'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun ac eraill yn effeithlon
- Yn gallu defnyddio technoleg i gyflawni'r rol, er enghraifft Microsoft Office, planfformau rhithwir fel TEAMS
- Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rol. sy'n cynnwys codi, cynorthwyo gyda symudedd, a chyflawni tasgu llaw eraill
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymedeithasol perthnasol, a darparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
- Profiad o weithio yn y GIG
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mandy Lee Evans
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 848143
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Team Leader Caren Broster - 03000 848143
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
