Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrs Deintyddol
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 8:30-17:00 1 awr o egwyl ginio ddi-dâl)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS249-0526-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ddeintyddol Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Deintyddol
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Cefnogi gwaith y tîm deintyddol trwy ddarparu sgiliau nyrsio deintyddol.
Gweinyddiaeth clinigol yn cynnwys gwaith papur y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol a thrin arian yn y prif glinig a lleoliadau eraill fel bo’n ofynnol.
Hwyluso gofal cleifion o’r safon uchaf i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn weinyddol i’r Uwch Nyrs Ddeintyddol ac yn atebol i Gyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru. Bydd y Nyrs Ddeintyddol yn gyfrifol yn glinigol i’r Clinigydd y mae ef/hi’n gweithio gydag ef/hi.
Disgwylir i ddeilydd y swydd deithio yn ardal Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru, er enghraifft, clinigau, ysbytai, ysgolion, ymweliadau cartref, unedau deintyddol symudol a chynnal triniaethau mewn safleoedd eraill, er enghraifft, cartrefi nyrsio. Telir costau teithio.
Cefnogi gwaith y tîm deintyddol trwy ddarparu sgiliau nyrsio deintyddol.
Gweinyddiaeth glinigol i’r prif glinig a lleoliadau eraill fe bo’n ofynnol.
Hwyluso gofal cleifion o’r safon uchaf i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym dim amrywiol ar draws Gogledd Cymru sy’n cynnwys, Deintyddion, Therapyddion, Nyrsys Deintyddol ac Cynorthwywyr Cymorth Iechyd Deintyddol. Rydym igyd yn gweithio gyda’n Gweithio I’n sefydliad.
gilydd I ddarparu gofal iechyd y geg o’r safon uchaf posibl.
Bydd ein manteision yn rhoi’r boddhad I chi o wybod eich bod wedi chwarae rhan ganolog wrth “Weithio I Sicrhau Dyfodol Iachach I Gymru.
Yma yn BILBC byddwn hefyd yn eich gwobreuo gyda ein buddion sy’n cynnwys ein pecyn gwyliau blynyddol hael, gweithio hyblyg, mynediad at therapy galwedigaethol ag hefyd pensiwn cyfrannol.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cyffredinol
Meini prawf hanfodol
- Ymddangosiad smart, trwsiadus, sy’n cyd-fynd â gweithio mewn amgylchedd clinigol • Gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Gallu I deallt yr Iaith Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig
Rhinweddau personol
Meini prawf hanfodol
- Hyblygrwydd o ran lleoliadau clinigol yr Ymddiriedolaeth, teithio ac oriau • Ymateb yn gadarnhaol i ethos tîm • Ymwybodol o’i gyfyngiadau ei hun • Medru gweithio dan hunan reolaeth
Meini prawf dymunol
- Agwedd hyblyg tuag at weithio yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn yr Ymddiriedolaeth
Sgiliau Personol
Meini prawf hanfodol
- Aelod da o dîm. Y gallu i ddefnyddio ei synnwyr mewn sefyllfaoedd argyfwng • Llawn hunan gymhelliant ac yn medru cymell cleifion yn enwedig wrth roi cyngor ar ofal deintyddol • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu clinig/deintyddfa • Sgiliau derbynfa a gwneud apwyntiadau • Sgiliau cyfathrebu ar lafar diogel ac effeithiol gyda chleifion/gofalwyr
Meini prawf dymunol
- Cyfarwydd â defnyddio cyfrifiadur • Hyfforddiant cyfredol o ran: • Dadebru cardiopwlmonaidd • Codi a chario • Rheoli croes-heintio • Profiad o ac ymrwymiad i Sicrwydd Ansawdd a Llywodraethu Clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad diweddar neu gyfredol o lawfeddygaeth ddeintyddol • Cynorthwyo gyda thrin plant, a chleifion pryderus, yn blant ac yn oedolion
Meini prawf dymunol
- Profiad yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol • Profiad gyda chleifion gofal arbennig, plant ac oedolion (yn cynnwys yr henoed) • Hybu iechyd deintyddol • Gweithio mewn Uned Ddeintyddol Allanol neu gynnal ymweliadau cartref • Rheoli ac archebu stoc
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Tystysgrif mewn Nyrsio Deintyddol neu NVQ cyfatebol • Tystiolaeth o gynnal hyfforddiant ar ôl yr hyfforddiant sylfaenol • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus • Cofrestriad cenedlaethol
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif ôl-sylfaenol yn unrhyw un o’r canlynol: • Tawelyddu • Gofal arbennig • Radiograffeg • Iechyd y geg • Orthodonteg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eleanor Cole
- Teitl y swydd
- Senior Dental nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000859663
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
