Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dieteteg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC652-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Deietegol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am weinyddwr profiadol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm dieteteg diabetes gofal eilaidd.

Byddwch yn ymuno â thîm arloesol o ddietegwyr a staff heb eu cofrestru, yn gofalu am bobl â diabetes yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae'r adran ehangach yn cynnwys bron i hanner cant o ddietegwyr a chynorthwywyr dieteg yn ogystal â'n tîm gweinyddol. Mae perthynas waith dda rhwng ein timau a digonedd o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, o fewn yr adran ac mewn cydweithrediad â’n cydweithwyr ar draws Gogledd Cymru.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau gwybod mwy.

Prif ddyletswyddau'r swydd

 Mae prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys:

  • Gwneud apwyntiadau ar gyfer dietegwyr.
  • Cymryd a throsglwyddo negeseuon ar gyfer y tîm.
  • Sefydlu clinigau a galwadau Teams.
  • Tasgau gweinyddol cyffredinol i gefnogi'r tîm.

Mae tîm Deieteg cryf, rhyng-gysylltiedig ledled Gogledd Cymru, sy'n cwrdd am ddiwrnodau i ffwrdd yn rheolaidd, ac sydd mewn cysylltiad cyson, yn rhannu gwybodaeth, adnoddau a datblygiadau lle bynnag y bo modd. Bydd yr holl gefnogaeth a goruchwyliaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster y Fframwaith Credydau Ansawdd ar lefel 3 neu gyfwerth

PROFIAD/ GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o waith swyddfa a gweithdrefnau gweinyddol
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn mwy nag un maes clinigol

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Sgiliau cynllunio a threfnu
  • Sgiliau cyfrifiadurol e.e. defnyddio Word, Excel, PowerPoint yn gymwys a phrofiad o fewnbynnu data

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Harrod-Wild
Teitl y swydd
Head of Dietetics - East
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 847268
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg