Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Atal Heintiau
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS830-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Wrecsam Maelor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cynorthwyydd Atal Heintiau
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Ymgymryd â swyddogaeth weithredol, gan ddarparu cefnogaeth i'r Tîm Atal Heintiau i ddarparu Cynllun Gwella Strategol Atal Heintiau'r Bwrdd Iechyd o fewn galluoedd y rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo a chefnogi'r Tîm Atal Heintiau i ddarparu’r Cynllun Gwella Atal Heintiau.
Arwain gweithgareddau archwilio Atal Heintiau e.e. Archwiliad monitro amgylcheddol, archwiliad hylendid dwylo, archwiliad arwahanu, cydymffurfiaeth â'r bwndel gofal ac adrodd ar y darganfyddiadau i'r Fetron Atal Heintiau.
Ymgymryd â gweithgareddau gwyliadwriaeth yn unol â chyfarwyddyd, gan gynnwys casglu data sylfaenol i gefnogi rhaglenni gwyliadwriaeth (demograffeg, defnyddio dyfeisiau ayb).
Sicrhau bod posteri Atal Heintiau a deunyddiau eraill yn cael eu harddangos yn gywir ar draws yr ysbyty.
Cynorthwyo gyda dyletswyddau eraill fel sy'n briodol o fewn gallu.
Trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith, gyda chyfarwyddyd a goruchwyliaeth uwch aelodau'r Tîm Atal Heintiau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Asesiad yn ystod cyfweliad
Meini prawf hanfodol
- Gallu addasu a hunan-gymhelliol
- Agwedd hyblyg tuag at waith
- Ability to undertake audit and understanding of audit methodology
- IT proficiency - eg Excel, Forms
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol mewn Atal Heintiau
Asesiad
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant Atal Heintiau priodol.
- Gallu gweithio'n unigol ac yn arloesol
Meini prawf dymunol
- Demonstrate continuous personal development
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jennifer Gavan
- Teitl y swydd
- Infection Prevention Sister
- Rhif ffôn
- 01978 727277
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
