Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Fixed term - 12 months)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HMP-AHP002-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CEF Berwyn
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 Y flwyddan
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Therapydd Galwedigaethol - CEF Berwyn
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 6 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Gradd 6
Ydych chi'n edrych am amrywiaeth, hyblygrwydd, her a'r cyfle i symud eich gyrfa ymlaen i ddarparu gofal iechyd modern yn y carchar? Dyma'r swydd i chi, dewch i ymuno â ni!
Byddwn yn rhoi cyfle i chi fod yn arbenigwr mewn therapi galwedigaethol carchardai ac i fod yn rhan o ofal a chymorth modern iawn. Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol. Rydym am eich cefnogi yn eich gyrfa a rhoi cyfle i chi wella
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle gwych wedi codi i Therapydd Galwedigaethol Arbenigol profiadol ymuno â’r tîm Therapïau yma yng Ngharchar Berwyn, carchar categori C ar gyfer dynion sy’n oedolion ag ystod o anghenion iechyd amrywiol. Mae hwn yn gyfle gwych i wreiddio newid ac ymgorffori diwylliant a rennir gyda Charchar Ei Mawrhydi a’r gwasanaeth prawf.
Rydym yn chwilio am Therapydd Galwedigaethol â sgiliau clinigol sy’n gallu gweithio ar draws ystod o faterion clinigol cymhleth ac sy’n gallu mynegi rôl Therapi Galwedigaethol mewn carchar. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd neu gyfwerth mewn Therapi Galwedigaethol, profiad ôl-raddedig sylweddol sy'n cynnwys profiad amlwg mewn maes clinigol cysylltiedig yn ogystal â chymwyseddau clinigol ôl-raddedig profedig a datblygu gwasanaeth. Bydd gennych hefyd sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i ddatrys problemau lluosog o fewn cyd-destun carcharol cyflym.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Galwedigaethol neu gyfwerth.
- Cofrestriad HCPC.
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o grŵp diddordeb arbenigol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-radd sylweddol gyda phrofiad blaenorol mewn maes clinigol cysylltiedig sy’n gwneud daliwr y swydd yn gymwys i weithio gyda llwyth achosion arbenigol yn y maes arbenigol.
- Dealltwriaeth o egwyddorion goruchwyliaeth a dirprwyo.
Meini prawf dymunol
- Goruchwyliwr profiadol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Esther Butterfield
- Teitl y swydd
- Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 523040
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector