Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 4 Atodiad 21 - 70% Band 4 am flwyddyn 1af a 75% Band 4 am 2il flwyddyn
- Contract
- Cyfnod Penodol: 2 flynedd (15 Chwefror 2027 hyd at 14 Chwefror 2029 er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan ar benwythnos / gŵyl y banc / rotas hwyr)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS854-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Technegydd Fferylliaeth Cyn-Gofrestru (Hyfforddiant ôl-Atodiad 21)
Gradd 4 Atodiad 21 - 70% Band 4 am flwyddyn 1af a 75% Band 4 am 2il flwyddyn
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 24 MIS OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster gofynnol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), ac wedyn i ymgesio am swyddi fel technegydd fferyllol.
Yn ystod y cyfnod prentisiaeth, bydd gofyn i chi gwblhau'r Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferyllol a ddarperir gan Brifysgol East Anglia.
Cyflog: Atodiad 21 – 70% o gyflog Band 4 i ddechrau, yn symud i 75% ar ôl 12 mis.
Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau. Maent yn arwain timau sy'n darparu gwasanaethau meddyginiaethau.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr a ddewiswyd ar gyfer cyfweliad anfon copïau o'u tystysgrifau TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) trwy e-bost cyn dyddiad y cyfweliad. Rhaid i gymwysterau y tu allan i'r DU gael eu dilysu gan UK ENIC (NARIC gynt) cyn y cyfweliad. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb a rhaid i ymgeiswyr allu mynychu'n bersonol
Prif ddyletswyddau'r swydd
|
Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi. Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant. Bydd y swydd yn seiliedig yn: Ysbyty Maelor Wrecsam Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol a diddorol ac yn datblygu'n barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i brofi rhai o'r rolau arloesol hyn mewn rhaglen hyfforddi gylchdro aml ardal. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty, yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward mewn Ysbyty. Efallai hefyd y byddwch yn cefnogi prosesau rheoli meddyginiaethau ac optimeiddio meddyginiaethau mewn meddygfa. Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio rhwng gwahanol safleoedd y Bwrdd Iechyd. Bydd gofyn hefyd i chi fynychu diwrnodau astudio oddi ar y safle. |
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm yn cyfeirio at y swydd y byddech yn gweithio tuag ati. Ni fydd y rheiny sydd ar hyn o bryd yn meddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Fferylliaeth, NVQ lefel 3 mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol yn cael eu hystyried.
I sicrhau lle ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf bedwar TGAU, graddau A*-C (graddau newydd 9-4) neu gymwysterau cyfatebol, gan gynnwys:
- TGAU Saesneg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o iaith Saesneg, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cyfathrebu Lefel 2.
- TGAU Mathemateg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o rifedd, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cymhwyso Rhif Lefel 2.
- Un TGAU Gwyddoniaeth Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu gymhwyster cyfatebol.
Efallai y bydd angen i'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn unol â'r egwyddorion ‘cyfatebol’, e.e. mynediad i gyrsiau addysg uwch, gwblhau cymwysterau ‘cyfathrebu’ a ‘cymhwyso rhif’ Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd prawf o'ch cymwysterau yn ofynnol.
Byddwch yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sydd wedi'i chymeradwyo gan y GPhC ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd nad yw eisoes yn meddu ar gymhwyster ‘llythrennedd digidol’ Sgiliau Hanfodol Cymru gwblhau hwn yn rhan o'r rhaglen.
I gwblhau'r rhaglen bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar y gallu a'r brwdfrydedd i ymgymryd â rhaglen brentisiaeth fodern, a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae hyn yn golygu gweithio'n llawn-amser (37.5 awr yr wythnos) mewn fferyllfa, adeiladu portffolio o dystiolaeth, cael eich asesu yn y gwaith, dysgu ar-lein, ymgymryd â diwrnodau astudio a gwaith grŵp, a dilyn Safonau GPhC ar gyfer Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol.
Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi. Mae profiad o weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol, ynghyd â phrofiad mewn fferyllfa, yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymhwyster
Meini prawf hanfodol
- 4 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth academaidd a datblygiad proffesiynol parhaus ar ol gadael yr ysgol. NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn ysbyty a/neu fferyllfa gymunedol neu o fewn y GIG
Dawn ac galleuoeudd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio mewn tim, sy'n gallu trefnu hunan, sgiliau TG da, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg Gwybodaeth am wasanaethau fferylliaeth a rol technegydd fferyllol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn ymwybodol o weithio o fewn terfynau, proffesiynol, gofal cleifion,
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio rheoli amser menter ac ymarfer
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i weithio mewn ardal ddwyieithog,
Meini prawf dymunol
- Y gallu i deithio, gwerthfawrogiad o gyfrifoldeb gofal yr amgylchedd gofal iechyd
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ann Gaulton
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Technician Training & Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 857296
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Helen Dalrymple, Prif Dechnegydd Fferylliaeth
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
