Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrs Gofrestredig
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol: Rhan-amser
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR241-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ward Onnen, Ysbyty Wrecsam Maelor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Cofrestredig
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrsys Cofrestredig Band 5 ymuno â’r Ward Onnen yn Uned Adsefydlu Ysbyty Wrecsam Maelor.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan weithio ar y cyd ac yn gydweithredol ag eraill i ddiwallu anghenion cleifion a'u teuluoedd.
Helpu i reoli a threfnu eu hardal glinigol a chymryd rhan mewn addysg, datblygiad a goruchwyliaeth Aelodau eraill o staff.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu a threfniadaeth rhagorol ac allu i ddarparu'r safonau uchaf o ofal mewn amgylchedd heriol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal cleifion gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
Cynnal safonau uchel o ofal cleifion a chyflawni'r holl ddyletswyddau gweinyddol a nyrsio fel y'u dirprwywyd.
Trefnu a defnyddio staff yn ôl eu cymhwysedd i ddiwallu anghenion cleifion.
Dangos gwybodaeth am safonau rheoli heintiau a hyrwyddo'r rhain o fewn amgylchedd y ward.
Cydweithio â'r Tîm Rhyddhau, Rheolwyr Safle, a chydweithwyr ward i sicrhau rhyddhau di-dor, sy'n canolbwyntio ar y claf.
Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu cryf, barn glinigol rhagorol, ac ymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Mae'r swydd hefyd yn rhan o amgylchedd gwaith hyblyg, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a ffocws ar gydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NMC wedi gofrestru Tystiolaeth iw darparu yn y cyfweliad
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudio a hyfforddiant ol gofrestru ee Pova
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn cofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol . Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir or fframwaith llywodraethu clinigol Gweithredu arfer syn seiliedig ar dystiolaeth
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth glir or contract gofal Y gallu i ddogfennu manylion yn glir ac yn gywir Dealltwriaeth glir or broses gydsynio Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am y polisi cofnodi digwyddiadau Ymwybyddiaeth o bolisiau gwybodaeth am y polisi cofnodi digwyddiadau
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gyfathrebun effeithiol Y gallu i weithio o dan bwysau
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sylvia Morrison
- Teitl y swydd
- Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
