Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Uned Arennau
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC340-0826W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam, Uned Arennau
Tref
Wrescam
Cyflog
£26,300 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweinyddwr Aren

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Darparu gwasanaeth clercyddol a chefnogi swyddfa gynhwysfawr i Staff yr Uned Arennol, cleifion, Therapïau Cartref, Metron Arennol, Rheolwr Gweinyddol Arennol a Rheolwr Gwasanaeth Arennol, gan gefnogi eu cyfrifoldebau dydd i ddydd.

Bydd angen i ddeilydd y swydd gyfathrebu â sefydliadau ac unigolion y tu allan i'r Bwrdd Iechyd.

 

Mae gofyn cael sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu ardderchog ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â'r gallu i flaenoriaethu gwaith a bodloni amserlenni. 

Bydd angen i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd bob amser.

Mae'n rhaid i ddeilydd y swydd chwarae rôl ragweithiol i gasglu safon uchel o ddata triniaeth a demograffig cleifion, ymchwilio iddo, ei ddilysu a'i gofnodi.

Mae'n rhaid i ddeilydd y swydd ymgymryd â blaen gynllunio effeithiol i sicrhau bod anghenion gweinyddol y gwasanaeth yn cael eu bodloni, ac mae'n rhaid iddo gynnal ystod o brosesau gweinyddol effeithiol i gefnogi darpariaeth gofal cleifion o ansawdd uchel.

Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. - leiafswm o lefel 3

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Pwynt cyswllt cyntaf yr Uned Arennol dros y ffôn, e-bost a gohebiaeth neu i ymwelwyr neu aelodau'r cyhoedd. Delio ag unigolion yn gwrtais, yn effeithiol ac yn sympathetig.
  • Ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol swyddfa, yn cynnwys delio â phost sy'n dod i mewn ac yn mynd allan, llungopïo a ffeilio, ac i ffacsio cyfeiriadau at adrannau amrywiol.
  • Trefnu cludiant ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a dialysis fel bo angen. Casglu'r amser dyddiol y bydd y claf yn barod ar gyfer cludiant bore a phrynhawn a chysylltu â chludiant ambiwlans a'r Ganolfan Arennol yn unol â hynny.
  • Delio â chwynion cleifion ynglŷn â chludiant ysbyty a rhoi adborth.
  • Yn gyfrifol am gynhyrchu'r holl ohebiaeth o ddydd i ddydd, gan gynnwys llythyrau, memo, posteri, taenlenni ac adroddiadau gan ddefnyddio pecyn Microsoft Office

Prif ddyletswyddau a restrir yn y disgrifiad swydd.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau cefnog neu cliciwch “Ceisiwch nawr” i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 3 neu barodrwydd i ymgymryd â NVQ lefel 3 a'i gwblhau o fewn 2 flynedd.
  • Sgiliau TG uwch, yn cynnwys defnyddio e-bost, power point, word ac excel.
  • Gallu dangos Saesneg a Mathemateg at lefel TGAU neu gyfwerth.
  • Tystiolaeth o ddysgu parhaus.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau a systemau clercyddol/ysgrifenyddol.
  • Set sgiliau Cymraeg lefel 3-5.
  • 'Siarad Cymraeg' (lleiafswm o lefel 3)
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o gyraeddiadau addysgol perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth clercyddol/gweinyddol cynhwysfawr.
  • Yn gyfarwydd â gweithdrefnau a therfynau amser swyddfa.
Meini prawf dymunol
  • Profiad ysgrifenyddol a gweinyddol blaenorol i uwch reolwr neu gyfwerth.
  • Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ellie Preston
Teitl y swydd
Renal Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 847311
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg