Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd i Bennaeth Podiatreg - Dwyrain IHC
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Darparu cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol broffesiynol ac effeithiol i'r Pennaeth Therapi Galwedigaethol - Dwyrain.
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys trefnu cyfarfodydd/rheoli dyddiadur, teipio cofnodion cyfarfodydd, teipio llythyrau ac mewnbynnu data staff.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen i chi fod yn hyblyg er mwyn cwrdd angenion yr gwasanaeth, yn ddibynadwy, yn gallu addasu ac yn meddu ar sgiliau trefnu da i diwallu anghenion y gwasanaeth. Mae arddull ddymunol ar y ffôn a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth dda o gyfrifiaduron Word ac Excel byddwch yn gallu gweithio’n dda mewn tîm ac yn gallu cadw cyfrinachedd.
Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd bydd disgwyl iddo/iddi ddelio â chleifion, perthnasau, staff meddygol a cydweithwyr eraill, dros y ffôn ac ar bapur, a hynny’n gwrtais a chan ddefnyddio doethineb bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster NVQ 3 neu brofiad cyfatebol mewn rôl debyg
- Cymhwyster ECDL neu wybodaeth gyfatebol am TG
- Addysg gyffredinol dda
Meini prawf dymunol
- Prosesu geiriau OCR/RSA lefel 3 neu lefel gyfwerth
Cyffredinol
Meini prawf hanfodol
- Dim gwallau sillafu
- Dim gwallau gramadegol
- Ymgeisydd ar y lefel gywir
- Profiad perthnasol
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio fel ysgrifennydd personol
- Yn gyfarwydd â gweithdrefnau swyddfa a therfynau amser
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o wasanaeth cleifion/cwsmeriaid
- Profiad blaenorol o weithio gyda’r GIG
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth eang a dwfn a dealltwriaeth am weithdrefnau ysgrifenyddol
- Gwybodaeth ddatblygedig am becynnau prosesu geiriau, taenlenni a chyflwynoH
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o wasanaeth cleifion/cwsmeriaid
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau a phrofiad o ran cymryd cofnodion
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg
- Profiad o gynhyrchu graffiau a data
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Henstead
- Teitl y swydd
- Senior Business Support Manager, Therapy Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector