Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Camddefnyddio Sylweddau
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos dros 5 dydd gan gynnwys gwyliau banc a phenwythnosau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HMP-ACS005-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CEM Berwyn
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau - CEM Berwyn
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Byddwch yn cynllunio, yn cyflwyno ac yn gwerthuso ymyriadau a/neu driniaethau pan fydd materion cymhleth yn codi. Byddwch yn trafod y cynllun triniaeth a'r anghenion cysylltiedig gyda'r defnyddiwr gwasanaeth a'r tIm SMS ac Iechyd ehangach a byddwch yn deall ei rôl ei hun wrth gyflwyno ymyriadau a / neu driniaethau o fewn y cynllun.
Byddwch yn nodi unrhyw ragofalon neu wrtharwyddion penodol i'r ymyriadau/triniaethau arfaethedig ac yn cymryd y camau priodol.
Byddwch yn cefnogi ac yn monitro cleifion drwy gydol y broses, gan hysbysu’r rheolwr llinell yn brydlon pan fydd newidiadau annisgwyl yn iechyd a lles unigolion neu lefel y risg.
Byddwch yn cefnogi gweithwyr achos seicogymdeithasol a chlinigol i reoli mentrau hybu iechyd a negeseuon lleihau niwed.
Byddwch yn rhoi gwybodaeth i’r tim Camddefnyddio Sylweddau ar sut mae anghenion unigolion yn newid ac yn rhoi adborth ar briodoldeb cynllun triniaeth yr unigolyn pan fydd problemau.
Byddwch yn paratoi ar gyfer ymyriadau/triniaethau, yn ymgymryd a nhw ac yn eu cofnodi’n gywir, ac yn unol a deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau a/neu brotocolau sefydledig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Edrych am brofiad gwaith newydd?
- Ydych chi erioed wedi meddwl am drosglwyddo eich sgiliau i amgylchedd carchar?
- Ydych chi'n dymuno datblygu a magu profiad ychwanegol mewn rôl heriol ond gwobrwyol?
Gofynion y Swydd
- Byddwch yn gymwys i lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfwerth a bydd gennych angerdd gwirioneddol am ddatblygu eich sgiliau ymarferol, clinigol ac ehangach o fewn y maes camddefnyddio sylweddau mewn amgylchedd sy'n newid yn barhaus.
- Bydd gennych angerdd dros helpu pobl sy'n defnyddio sylweddau a gwella eu hansawdd bywyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau Hanfodol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad Hanfodol
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jonathan Parry
- Teitl y swydd
- Substance Misuse Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 523446
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector